Cym | Eng

Llyfrgell adnoddau

Ffocws ar chwarae – Chwarae mewn gofal iechyd

Pwnc

Llyfrgell adnoddau

Dyddiad cyhoeddi

19.08.2025

Darllen yr adnodd

Ffocws ar chwarae – Chwarae mewn gofal iechyd

Awdur: Chwarae Cymru
Dyddiad: Awst 2025

Mae’r rhifyn hwn o Ffocws ar chwarae yn cynnig gwybodaeth am bwysigrwydd chwarae mewn lleoliadau gofal iechyd. Mae wedi’i anelu at y rhai sy’n cefnogi lles plant ac arddegwyr sy’n gleifion mewn ysbytai neu leoliadau cymunedol, fel hosbisau plant.

Mae’r papur briffio’n disgrifio pwysigrwydd chwarae ar gyfer iechyd, lles a hapusrwydd plant ac yn amlinellu’r gyfraith rhyngwladol sy’n amddiffyn hawl plant i chwarae. Mae’n esbonio sut y profwyd bod chwarae’n cael effaith gadarnhaol ar les plant ac arddegwyr mewn ysbytai a lleoliadau gofal iechyd, a’u gallu i ymdopi gydag ofn, poen a thriniaeth.

Mae’r papur briffio hefyd yn disgrifio buddiannau economaidd darparu chwarae mewn lleoliadau gofal iechyd, drwy ddeilliannau clinigol gwell a gwell defnydd o adnoddau meddygol. Mae’n tynnu sylw at ganllawiau gan amrywiaeth o ffynonellau sy’n cefnogi darparu chwarae er mwyn gwella profiadau cleifion.

Yn olaf, mae’r papur briffio’n rhoi ffocws ar gyflwr chwarae iechyd yng Nghymru. Mae’n gwneud argymhellion ar gyfer polisi gofal iechyd yng Nghymru mewn perthynas â gwella darpariaeth chwarae mewn ysbytai a lleoliadau gofal iechyd.

Mae’r cyhoeddiad hwn wedi’i gymeradwyo gan Starlight Children’s Foundation.

Cyhoeddiadau Cysylltiedig

Gweld yr holl cyhoeddiadau

Llyfrgell adnoddau | 06.07.2026

Ffocws ar chwarae – Safonau Gofynnol Cenedlaethol diwygiedig ar gyfer lleoliadau gwaith chwarae mynediad agored Ffocws ar chwarae – Safonau Gofynnol Cenedlaethol diwygiedig ar gyfer lleoliadau gwaith chwarae mynediad agored

Archwilio’r safonau newydd ar gyfer gwaith chwarae mynediad agored

Gweld

Llyfrgell adnoddau | 04.06.2026

Llinell amser chwarae yng Nghymru 2026 Llinell amser chwarae yng Nghymru 2026

Cynnydd a wnaethpwyd i gefnogi chwarae plant yng Nghymru ers 1998

Gweld

Cylchgrawn | 05.05.2026

Chwarae dros Gymru – rhifyn 66 Chwarae dros Gymru – rhifyn 66

Rhifyn ‘Y Gymru yr ydw i am dyfu i fyny a chwarae ynddi’ ein cylchgrawn

Gweld
Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors