Cym | Eng

Llyfrgell adnoddau

Ffocws ar chwarae – Safonau Gofynnol Cenedlaethol diwygiedig ar gyfer lleoliadau gwaith chwarae mynediad agored

Pwnc

Llyfrgell adnoddau

Dyddiad cyhoeddi

06.07.2026

Darllen yr adnodd

Ffocws ar chwarae – Safonau Gofynnol Cenedlaethol diwygiedig ar gyfer lleoliadau gwaith chwarae mynediad agored

Awdur: Chwarae Cymru
Dyddiad: Gorffennaf 2026 

Mae’r rhifyn hwn Ffocws ar chwarae yn cynnig gwybodaeth am y Safonau Gofynnol Cenedlaethol (NMS) sydd wedi eu diwygio, ar gyfer gwaith chwarae mynediad agored, a gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2026. Mae wedi’i anelu at y rheini sy’n gyfrifol am, neu’n gweithio mewn, gwaith chwarae mynediad agored, yn ogystal â rhai sydd a diddorddeb mewn lleoliadau gwaith chwarae mynediad agored.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru NMS diwygiedig ar gyfer gofal plant a reoleiddir i blant hyd at ddeuddeg oed, gan gynnwys set newydd o NMS ar gyfer gwaith chwarae mynediad agored.

Yn y rhifyn hwn, rydym yn archwilio’r hyn sydd wedi newid yn yr NMS ar gyfer gwaith chwarae mynediad agored ac yn ateb cwestiynau cyffredin, megis:

  • Beth am gofrestriadau ar gyfer darparwyr mynediad agored sy’n gweithio mewn mwy nag un lleoliad?
  • Ydi hyn yn golygu nad yw gwaith chwarae mynediad agored yn cael ei reoleiddio mor llym â darpariaeth gofal dydd a gwarchod plant arall?
  • Oes rhaid i bob lleoliad gwaith chwarae mynediad agored gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru?

Cyhoeddiadau Cysylltiedig

Gweld yr holl cyhoeddiadau

Llyfrgell adnoddau | 04.06.2026

Llinell amser chwarae yng Nghymru 2026 Llinell amser chwarae yng Nghymru 2026

Cynnydd a wnaethpwyd i gefnogi chwarae plant yng Nghymru ers 1998

Gweld

Cylchgrawn | 05.05.2026

Chwarae dros Gymru – rhifyn 66 Chwarae dros Gymru – rhifyn 66

Rhifyn ‘Y Gymru yr ydw i am dyfu i fyny a chwarae ynddi’ ein cylchgrawn

Gweld

Llyfrgell adnoddau | 10.04.2026

Eiriol dros chwarae plant: maniffesto i Gymru Eiriol dros chwarae plant: maniffesto i Gymru

Galwadau maniffesto Chwarae Cymru ar gyfer etholiad 2026 y Senedd

Gweld
Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors