Archwiliwch
Mae’r Bwrdd Ymddiriedolwyr yn goruchwylio rhedeg Chwarae Cymru er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni ein amcanion mewn modd effeithiol ac effeithlon yn unol â’r gyfraith.
Rydym yn gofyn am enwebiadau i Fwrdd Ymddiriedolwyr Chwarae Cymru.
Mae hwn yn gyfle i gyfrannu at lywodraethu sefydliad cenedlaethol sy’n eiriol dros Gymru chwarae-gyfeillgar a hyrwyddo hawl plant i chwarae.
Yn Chwarae Cymru rydym am weithio gyda’n gilydd i hyrwyddo amgylchedd gweithio cynhwysol, sy’n denu’r ystod ehangaf o ymgeiswyr ar gyfer rolau staff ac ymddiriedolwyr ac mae hyn yn arwydd o’n hymrwymiad i ddathlu a hyrwyddo amrywiaeth. Trwy fabwysiadu’r agwedd cynhwysol hwn, mae Chwarae Cymru’n sicrhau ein bod yn denu’r gronfa fwyaf amrywiol o ddoniau a phrofiad.
Os hoffech gael eich ystyried i’ch penodi, neu os hoffech enwebu rhywun arall i’w penodi, cwblhewch a dychwelwch y ffurflen enwebu drwy ebost os gwelwch yn dda.
Dyddiad cau ar gyfer enwebiadau: 30 Mehefin 2025
Lawrlwytho Manyldeb Ymddiriedolwyr
Lawrlwytho Cylch Gorchwyl ar gyfer y Bwrdd Ymddiriedolwyr