Cym | Eng

Newyddion

Chwarae a lles – cyhoeddi adolygiad llenyddiaeth

Date

28.10.2024

Category

Newyddion

Archwiliwch

Heddiw rydym yn cyhoeddi Chwarae a lles, adolygiad llenyddiaeth cynhwysfawr sy’n canolbwyntio ar bwysigrwydd chwarae plant a lles. Wedi ei gynnal gan Dr Wendy Russell, gyda Mike Barclay a Ben Tawil o Ludicology, mae’n adolygiad o ymchwil diweddar i chwarae plant, polisi cymdeithasol ac ymarfer, gyda ffocws ar Gymru.

Mae’r adolygiad llenyddiaeth, a gomisiynwyd gan Chwarae Cymru, yn archwilio’r cysylltiadau rhwng digonolrwydd cyfleoedd chwarae a lles plant. Mae’n tynnu’n bennaf ar ymchwil academaidd, ar draws ystod o ddisgyblaethau, ond mae hefyd yn tynnu ar lenyddiaeth broffesiynol, eiriolaeth ac ymarferydd ble fo’n briodol. Mae’r adolygiad yn canolbwyntio ar rôl chwarae mewn lles plant, patrymau chwarae plant, a chefnogaeth oedolion i chwarae plant.

Wedi ei rannu’n bump pennod, mae’n cynnwys gwybodaeth am:

  • gefndir, cwmpas ac arddull yr adolygiad llenyddol
  • cyd-destun a fframio’r adolygiad
  • rôl chwarae mewn lles plant
  • chwarae plant heddiw
  • cefnogi chwarae plant.

Cwblhawyd yr adolygiad 10 mlynedd ers cychwyn y Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a thra bod Llywodraeth Cymru yn cynnal ei Adolygiad Gweinidogol o Chwarae. Bydd y dystiolaeth a gasglwyd yn yr adolygiad llenyddiaeth yn hysbysu’r gwaith parhaus hwn. Cyflawnwyd y mwyafrif o’r ymchwil ar gyfer yr adolygiad rhwng Ebrill 2021 ac Ionawr 2023 ac mae’n adlewyrchu’r hyn oedd ar gael ar y pryd.

Mae Chwarae a lles yn dilyn cyhoeddi papur briffio a chrynodeb i gyflwyno’r adolygiad llenyddol.

Wrth groesawu cyhoeddi Chwarae a lles, dywed Chwarae Cymru:

‘Rydym i gyd yn gwybod bod chwarae’n hollbwysig i les plant – gallwn ddiolch i’r awduron Wendy, Mike a Ben am gynhyrchu’r adolygiad mwyaf manwl a chynhwysfawr o’r dystiolaeth gyfredol o bwysigrwydd chwarae, gan ganolbwyntio ar y cyd-destun polisi yma yng Nghymru. O ystyried hanes Llywodraeth Cymru wrth fabwysiadu’r polisi chwarae cenedlaethol cyntaf erioed, ac yn fwy diweddar deddfu dyletswydd gyfreithiol gyntaf y byd ar gyfer chwarae, nid yw ond yn briodol ei bod wedi darparu cyllid i alluogi’r ymchwil hwn i ddigwydd.

Mae’r adolygiad yn dwyn ynghyd ganfyddiadau ymchwil hollbwysig ac yn dangos cymhlethdod chwarae a’r her sy’n ein hwynebu wrth gesio ei groesawu’n ystyrlon o fewn persbectif polisi. Mae gan y cysyniad dull galluogrwydd perthynol sy’n dod i’r amlwg y potensial i ddarparu model i’n galluogi’n well i symud y tu hwnt i’r egwyddor sefydledig o hawl plant i chwarae tuag at ymateb cymdeithasol effeithiol a fydd yn cynyddu cyfleoedd plant i chwarae yn sylweddol. Nid oes gennym unrhyw amheuaeth y bydd Chwarae a lles yn llywio ein gwaith parhaus sy’n ymwneud â’r Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a’r datblygiadau cyfredol a nodwyd yn yr Adolygiad Gweinidogol o Chwarae.’

Lawrlwytho Chwarae a lles

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors