Cysylltwch â ni
Cym | Eng

Gwaith Chwarae

Diogelu mewn darpariaeth chwarae

Archwiliwch

Diogelu yw’r hyn y byddwn yn ei wneud i sicrhau lles plant a’u hamddiffyn rhag niwed.

Mae amddiffyn plant yn rhan bwysig o ddiogelu. Mae angen amddiffyn plant rhag:

  • oedolion rheibus
  • ecsploetiaeth
  • niwed bwriadol a difrifol
  • trais domestig
  • esgeulustod
  • bwlio.

Fel gweithwyr chwarae, dylai ein pwyslais fod ar gefnogi a grymuso plant. Mae hyn yn golygu taro cydbwysedd rhwng mwynhad plant o’u rhyddid bob dydd gyda’n rôl amddiffyn plant. Am y rheswm hwn, mae diogelu’n rhywbeth y dylem ei ystyried fel rhan o agwedd gytbwys tuag at reoli risg.

Mewn lleoliadau gwaith chwarae, mae’n hanfodol bod â pholisïau a gweithdrefnau addas yn eu lle ond mae diogelu’n mynd ymhellach na hyn. Mae angen i leoliadau gwaith chwarae gynnal agwedd agored ac onest. Mae angen iddyn nhw sicrhau bod pawb yn deall eu cyfrifoldebau a’u bod yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi fel y gallant rannu unrhyw bryderon.

Weithiau bydd plant yn archwilio profiadau anodd neu drawmatig trwy eu chwarae. Gall gweithwyr chwarae dyfu’n oedolion y gall plant ymddiried ynddynt ac mae lleoliadau gwaith chwarae’n fannau ble gall plant deimlo’n ddiogel. Gallai hyn olygu y bydd plant yn teimlo y gallant ddweud wrth weithwyr chwarae am gamdriniaeth.

Mae llu o wahanol ffyrdd i gefnogi diogelu mewn lleoliadau gwaith chwarae. Maent yn cynnwys:

  • derbyn hyfforddiant diogelu
  • bod a pholisïau a gweithdrefnau diogelu digonol yn eu lle
  • gwrando ar a chael sgyrsiau gyda phlant am bethau sy’n bwysig iddyn nhw
  • bod yn anfeirniadol
  • datblygu perthnasau gyda rhieni, gofalwyr a theuluoedd
  • datblygu perthnasau gyda gweithwyr proffesiynol a sefydliadau eraill
  • gweithio gyda’n gilydd.

Gweithdrefnau amddiffyn plant

Dylai eich gweithdrefnau amddiffyn plant egluro beth i’w wneud os ydych yn pryderu am blentyn allai fod yn dioddef camdriniaeth neu esgeulustod. Dylai lleoliadau gwaith chwarae yng Nghymru lynu at Gweithdrefnau Diogelu Cymru. Mae’r gweithdrefnau hyn yn amlinellu:

  • rolau a chyfrifoldebau ymarferwyr
  • dyletswydd ymarferwyr i adrodd am bryderon
  • sut y gall ymarferwyr adrodd am bryderon.

 

 

Adnoddau

Datblygu a rheoli prosiect gwaith chwarae

Mae Cyfrol 3 ein canllawiau gwaith chwarae yn cynnwys mwy o wybodaeth ar ddiogelu.

 

Llyfrgell Cyhoeddiadau

Mae ein casgliad o gyhoeddiadau’n cynyddu ymwybyddiaeth am bwysigrwydd chwarae ar gyfer plant a phlant yn eu harddegau. Mae’r adnoddau hyn hefyd yn cynnig canllawiau arfer da ar amrywiaeth o bynciau am ddarparu cyfleoedd i chwarae.

Learn more
Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors