Archwiliwch
Yn ein hadroddiad ymchwil newydd, Yr hyn mae plant yn ei ddweud am chwarae yng Nghymru 2022, mae bron i 7,000 o blant ac arddegwyr yn dweud wrthym pa mor fodlon ydyn nhw gyda eu cyfleoedd i chwarae yn eu hardal leol.
Wedi ei ysgrifennu gan Dr David Dallimore, ymgynghorydd ymchwil sy’n arbenigo mewn chwarae a gofal plant y blynyddoedd cynnar, mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno darlun o fodlonrwydd chwarae plant yng Nghymru yn 2022. Ond, yn bwysicach fyth, mae’n darparu cyfle i leisiau plant ac arddegwyr gael eu clywed, gan danlinellu:
- pwysigrwydd chwarae yn eu bywydau
- yr hyn sy’n dda a’r hyn sydd ddim cystal am y cyfleoedd chwarae yn eu hardal leol
- pa mor fodlon ydyn nhw gyda phryd, sut a ble y gallant chwarae.
Mae’r adroddiad yn cynnwys canfyddiadau am fodlonrwydd plant ac arddegwyr gyda’r amser, lle a chaniatâd sydd ganddynt i chwarae, yn ogystal ag effaith COVID-19 ar eu cyfleoedd i chwarae. I bwysleisio lleisiau plant drwy’r adroddiad, mae’n cynnwys sylwadau craff gan blant ac arddegwyr o bob oed o bob cwr o Gymru.
Mae’r rhan fwyaf o blant ac arddegwyr ar draws Cymru wedi dweud wrthym, pan maent yn cael caniatâd i fynd allan, yn teimlo’n ddiogel, ac yn gallu chwarae yn y mannau ble maent am chwarae, mae’r mwyafrif yn hapus gyda’r dewis o fannau chwarae. Fodd bynnag, mae ambell grŵp o blant ac arddegwyr yn sefyll allan yn eu hadrodd am lefel bodlonrwydd isel gyda’u cyfleoedd chwarae. Mae’r rhain yn cynnwys plant ac arddegwyr anabl a phlant ac arddegwyr o leiafrifoedd ethnig.
Yn 2022, gofynnodd Chwarae Cymru i awdurdodau lleol yng Nghymru rannu canlyniadau eu Harolygon Bodlonrwydd Chwarae. Mae awdurdodau lleol yn defnyddio’r arolwg hwn i ymgynghori â phlant ac arddegwyr fel rhan o’u Asesiadau Digonolrwydd Chwarae. O’r 22 awdurdod lleol, ymatebodd 17 a llwyddodd 15 i ddarparu data dienw ar ffurf y gellid ei ddadansoddi.
Diolch i’n holl batneriaid mewn awdurdodau lleol weithiodd gyda ni i gynllunio, casglu, coladu a rhannu’r data. Mae cael arolwg safonedig sydd bellach yn cael ei ddefnyddio gan y mwyafrif o awdurdodau lleol yn golygu y gallwn gofnodi lleisiau plant ac arddegwyr yn ddibynadwy, a hynny o bob cwr o’r wlad.
Lawrlwytho Yr hyn mae plant yn ei ddweud am chwarae yng Nghymru