Cym | Eng

Llyfrgell adnoddau

Papur briffio – Chwarae a lles: dull galluogrwydd perthynol

Pwnc

Llyfrgell adnoddau

Dyddiad cyhoeddi

06.06.2023

Darllen yr adnodd

Papur briffio – Chwarae a lles: dull galluogrwydd perthynol

Awduron: Wendy Russell, Mike Barclay a Ben Tawil
Dyddiad: Mehefin 2023

Mae’r papur briffio hwn yn cyflwyno ein hadolygiad llenyddiaeth, Chwarae a lles: Adolygiad o ymchwil diweddar i chwarae plant, polisi cymdeithasol ac ymarfer, gyda ffocws ar Gymru, a fydd ar gael yn fuan.

Cwblhawyd y gwaith 10 mlynedd ers cychwyn y Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a thra bod Llywodraeth Cymru yn cynnal yr Adolygiad Gweinidogol o Chwarae. Bydd y dystiolaeth a gasglwyd yn yr adolygiad llenyddiaeth yn hysbysu’r gwaith parhaus hwn.

Mae’r papur briffio yn cynnwys gwybodaeth am:

  • Gefndir a chwmpas yr adolygiad
  • Datblygiadau diweddar mewn ymchwil plentyndod a chwarae
  • Datblygiadau polisi
  • Sut mae chwarae’n cyfrannu at les
  • Chwarae plant heddiw.

Mae’r papur briffio yn cynnig dull galluogrwydd perthynol (a dynnwyd o’r llenyddiaeth) fel fframwaith newydd ar gyfer meddwl am chwarae a lles plant. Nid yw’n grynodeb hollgynhwysol o ganfyddiadau’r adolygiad – ni fyddai’n bosib gwneud cyfiawnder ag ehangder, dyfnder, cymhlethdod ac amrywiaeth yr ymchwil a adolygwyd mewn dogfen mor fyr â hon.

Cyhoeddiadau Cysylltiedig

Gweld yr holl cyhoeddiadau

Llyfrgell adnoddau | 06.07.2026

Ffocws ar chwarae – Safonau Gofynnol Cenedlaethol diwygiedig ar gyfer lleoliadau gwaith chwarae mynediad agored Ffocws ar chwarae – Safonau Gofynnol Cenedlaethol diwygiedig ar gyfer lleoliadau gwaith chwarae mynediad agored

Archwilio’r safonau newydd ar gyfer gwaith chwarae mynediad agored

Gweld

Llyfrgell adnoddau | 04.06.2026

Llinell amser chwarae yng Nghymru 2026 Llinell amser chwarae yng Nghymru 2026

Cynnydd a wnaethpwyd i gefnogi chwarae plant yng Nghymru ers 1998

Gweld

Cylchgrawn | 05.05.2026

Chwarae dros Gymru – rhifyn 66 Chwarae dros Gymru – rhifyn 66

Rhifyn ‘Y Gymru yr ydw i am dyfu i fyny a chwarae ynddi’ ein cylchgrawn

Gweld
Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors