Chwarae
Chwarae a chynhwysiant
Mae gan bob plentyn hawl i chwarae, waeth beth fo’u diwylliant, nam, rhyw, iaith, cefndir, ymddygiad neu angen. Mae gan blant hawl i chwarae yn eu cymdogaethau ac mewn lleoliadau wedi’u staffio fel darpariaeth chwarae, ysgolion a gofal plant hefyd.
Mae chwarae cynhwysol yn golygu rhoi mynediad cyfartal i bob plentyn ac arddegwr i ddarpariaeth chwarae lleol o safon dda. Mae’n golygu rhoi digon o gyfleoedd iddyn nhw chwarae fel y mynnant, gydag eraill neu ar eu pen eu hunain, mewn amgylchedd neu leoliad sy’n cefnogi eu hanghenion chwarae.
Mae Pwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn wedi lleisio pryderon am anawsterau y mae grwpiau penodol o blant yn eu hwynebu wrth gael mynediad i gyfleoedd i chwarae. Fe wnaeth hyn yn Sylw Cyffredinol rhif 17 ar Erthygl 31 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).
Yn Cymru – gwlad lle mae cyfle i chwarae (cyfarwyddyd statudol i awdurdodau lleol), mae Llywodraeth Cymru’n dweud y dylai Asesiadau Digonolrwydd Chwarae adrodd ar ba mor dda y gall plant o amrywiol gymunedau a diwylliannau gael mynediad i chwarae.
Chwarae a phlant anabl
Mae Erthygl 23 CCUHP yn datgan yn glir bod gan blant anabl hawliau. Mae’r erthygl yn agor gyda’r datganiad y dylai plant anabl:
‘fwynhau bywyd llawn a pharchus, mewn amgylchiadau sy’n sicrhau urddas, sy’n hybu annibyniaeth ac sy’n hwyluso cyfranogiad gweithredol y plentyn yn y gymuned’.
Mae hyn yn cynnwys cyfleoedd i chwarae.
Pan ofynnir iddynt am eu profiad o chwarae, mae rhai plant anabl yn dweud eu bod yn wynebu cael eu hynysu, eu heithrio ac unigrwydd. Gallai’r rhesymau am hyn gynnwys:
- amgylcheddau wedi’u dylunio’n wael
- agweddau sy’n ategu gwahaniaethau
- effeithiau anhwylderau a namau sy’n cyfyngu ar gyfranogi.
Chwarae yw un o agweddau pwysicaf bywydau plant a dylai pob plentyn gael cyfleoedd cyfartal i chwarae ochr-yn-ochr â phlant eraill fel y mynnant. Mae’r cyfleoedd cyfartal hyn yn gymwys i bob plentyn ym mhobman – yn eu cymdogaethau ac mewn lleoliadau cymunedol, mannau chwarae, darpariaeth chwarae ac ysgolion.
Pan fyddwn yn dylunio mannau a darpariaeth sy’n ei gael yn iawn ar gyfer plant anabl, mae mwy o blant yn gallu chwarae ochr-yn-ochr â’i gilydd. Mae’r profiadau cynnar hyn yn siapio ein goddefgarwch a’n dealltwriaeth o wahaniaeth.
Diffiniadau defnyddiol
Mae’r UK Children’s Play Policy Forum a’r UK Play Safety Forum yn argymell y diffiniadau canlynol ar gyfer y termau ‘hygyrch’ a ‘cynhwysol’ yng nghyd-destun mannau chwarae, o’u cyd-ddatganiad sefyllfa, Cynnwys plant anabl mewn darpariaeth chwarae 2022.
‘Mae Man Chwarae Hygyrch yn ofod sydd yn rhydd o rwystrau, sy’n caniatáu mynediad i ddefnyddwyr symud o gwmpas y gofod ac mae’n cynnig cyfleoedd cyfranogaeth ar gyfer ystod o wahanol alluoedd. Ni fydd pob plentyn o bob gallu yn medru defnyddio popeth sydd mewn man chwarae hygyrch.’
‘Mae Man Chwarae Cynhwysol yn cynnig amgylchedd sy’n rhydd o rwystrau, ynghyd â’r isadeiledd ategol, sy’n ateb anghenion chwarae eang ac amrywiol pob plentyn. Bydd plant anabl a phlant sydd ddim yn anabl yn mwynhau lefelau uchel o gyfleoedd cyfranogi, sydd yr un mor gyfoethog o ran gwerth chwarae.’
Ni ddylid defnyddio’r termau hyn yn gyfnewidiol, gan y gall cymhlethdod ynghylch y derminoleg hon gyfrannu at ddiffyg darpariaeth chwarae priodol.
Adnoddau sy’n helpu i gefnogi plant anabl
Creu mannau chwarae hygyrch
Mae’r pecyn cymorth hwn wedi’i ddylunio i gynorthwyo unrhyw un sy’n creu, datblygu a gwella mannau chwarae hygyrch y gall pob plentyn eu mwynhau, ynghyd â’u ffrindiau a’u teuluoedd.
Mae’n cynnwys gwybodaeth glir a chryno ar gyfer amrywiol gynulleidfaoedd:
- awdurdodau lleol
- cynghorau tref a chymuned
- gwleidyddion ar bob lefel
- cynllunwyr mannau agored
- cymdeithasau tai
- rheolwyr parciau a meysydd chwarae.
Cynnwys Plant Anabl mewn Darpariaeth Chwarae
Mae hwn yn ddatganiad sefyllfa ar y cyd gan yr UK Children’s Play Policy Forum a’r UK Play Safety Forum. Mae’n galw am weithredu i wella mannau chwarae hygyrch a chynhwysol sy’n cynnal hawl ac angen pob plentyn i chwarae. Mae’r datganiad yn anelu i gefnogi pawb sy’n ymwneud â mannau chwarae, meysydd chwarae a meysydd chwarae antur i wneud y cyfleusterau hyn yn fwy hygyrch a chynhwysol.