Chwarae
Sefydliadau diwylliannol
Yn ogystal â chydnabod yr hawl i chwarae, mae Erthygl 31 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yn cydnabod hefyd hawl plant i weithgareddau hamdden, bywyd diwylliannol a’r celfyddydau.
Yn Sylw Cyffredinol rhif 17, mae Pwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn yn tanlinellu’r mater hwn:
‘Mae cymryd rhan mewn bywyd diwylliannol a’r celfyddydau yn elfen bwysig o ymdeimlad plant o berthyn. Bydd plant yn etifeddu ac yn profi bywyd diwylliannol ac artistig eu teulu, eu cymuned a’u cymdeithas, a thrwy’r broses honno, maent yn darganfod ac yn ffurfio eu hymdeimlad o’u hunaniaeth eu hunain ac, yn eu tro, yn cyfrannu at symblyu a chynaladwyedd bywyd diwylliannol a chelfyddydau traddodiadol’.
Mae Sylw Cyffredinol rhif 17 yn datgan bod:
‘Cyfranogi mewn gweithgareddau diwylliannol ac artistig yn angenrheidiol ar gyfer ffurfio dealltwriaeth plant o’u diwylliant eu hunain a diwylliannau eraill, ac mae rhyngweithio chwareus gyda sefydliadau a thraddodiadau diwylliannol yn ehangu gorwelion, yn cyfrannu at gyd-ddealltwriaeth ac yn hyrwyddo amrywiaeth. Bydd plant yn creu a phasio diwylliant ymlaen trwy chwarae dychmygus, chwaraeon, dawns, straeon, gemau a gwyliau’.
Gall amgueddfeydd, orielau a sefydliadau diwylliannol eraill gynnig cyfle i blant fwynhau eu hawl i chwarae, ochr yn ochr â gweithgareddau hamdden, a bywyd diwylliannol a’r celfyddydau.
Mae gan amgueddfeydd, orielau, safleoedd treftadaeth a chanolfannau diwylliannol gyfoeth o brofiad a dealltwriaeth o blant a theuluoedd fel ymwelwyr. Mae’r sector diwylliannol mewn sefyllfa dda i wneud eu gofodau a’u lleoliadau’n groesawus i blant a’u teuluoedd trwy gynnig cyfleoedd iddynt chwarae.
Gall newidiadau bychan wneud gwahaniaeth mawr – er enghraifft, creu grid sgots neu olion traed ar lawr, sy’n gwahodd bod yn chwareus ac i symud o amgylch y lleoliad. Yn ogystal, gall ychwanegu deunyddiau chwarae rhannau rhydd i leoliadau diwylliannol annog plant ichwarae.
Mae’n dda i blant a’u teuluoedd gael cyfleoedd i chwarae a bod yn chwareus. Mae’r cyfleoedd hyn o fudd i leoliadau a chanolfannau diwylliannol hefyd. Mae buddiannau’n cynnwys:
- Gwella lles plant a theuluoedd
- Mwynhad plant o’u hawliau Erthygl 31 diolch i gefnogaeth y lleoliad neu’r ganolfan
- Cynnydd mewn ymgysylltiad ymwelwyr
- Busnes gwell i leoliadau a chanolfannau, denu mwy o ymwelwyr newydd ac eildro
- Creu mannau cymdeithasol, bywiog sy’n annog chwarae ac ymgysylltu.
Adnoddau
Chwarae dros Gymru – Mannau chwareus
Mae rhifyn Gaeaf 2022 ein cylchgrawn yn tynnu sylw at enghreifftiau o fynediad plant i enydau chwareus mewn nifer o wahanol fannau. Mae’n cynnwys erthyglau sy’n edrych ar chwarae mewn atyniadau i deuluoedd, fel sŵau ac amgueddfeydd.