Swyddi yn y sector
Eisiau ymuno â'r sector chwarae a gwaith chwarae?
Mae ein gwasanaeth hysbysebu swyddi sy’n ymwneud â chwarae yn rhad ac am ddim i unigolion a sefydliadau sydd am hysbysebu swyddi yn y DU.
Caiff hysbysebion eu gosod ar y wefan o fewn wythnos inni eu derbyn a’u dileu wedi i’r dyddiad cau basio.
Caiff pob hysbyseb ei gwirio cyn ei gosod ar y wefan. Sylwer – gan nad yw Chwarae Cymru yn asiantaeth recriwtio, ni allwn fynd i unrhyw drafodaethau nac ymateb i unrhyw ohebiaeth am swyddi a hysbysebir yma.


Hysbysebu swydd
Os hoffech hysbysebu swydd sy’n ymwneud â chwarae yn rhad ac am ddim, e-bostiwch y testun atom – yn Gymraeg a Saesneg os yn bosibl. Cofiwch wneud yn siŵr eich bod yn cynnwys y manylion perthnasol i gyd, yn cynnwys:
- Teitl y swydd
- Lleoliad
- Oriau yr wythnos
- Cyflog neu dâl yr awr
- Disgrifiad swydd cryno
- Manylion ynghylch sut i ymgeisio
- Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.
SWYDDI YN Y SECTOR

Mae Dylan’s Den, Treorci yn recriwtio Arweinydd Chwarae Clwb All-Ysgol – anfonwch eich cais erbyn 1 Medi 2025

Mae Clwb All-Ysgol Plasnewydd, Caerdydd yn recriwtio Dirprwy Rheolwr – anfonwch eich cais erbyn 15 Awst 2025