Swyddi Sector
Cydlynydd Chwarae
Mudiad: Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Lleoliad: Y Blaenau
Cyfeirnod y swydd: REQ000150
Oriau: llawn amser, 37 awr yr wythnos
Cyflog £29,540 – £32,597 y flwyddyn, pro rata
Dyddiad cau: 31 Hydref 2025 
Cyfnod penodol tan 31 Mawrth 2026
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn recriwtio Cydlynydd Chwarae i ymuno â’i dîm Gofal Plant a Chwarae. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain ar gyflenwi sesiynau chwarae hwyliog, cynhwysol ac ystyrlon i blant a phobl ifanc ledled y bwrdeistref, a bydd yn cynllunio ac yn cyflwyno sesiynau ar ôl ysgol a gwyliau ysgol.
Mae’r rôl yn cynnwys cynllunio gweithgareddau, chwilio am adnoddau, asesu ac archebu lleoliadau, a hyrwyddo digwyddiadau o fewn y gymuned. Bydd y Cydlynydd Chwarae yn cefnogi gwirfoddolwyr, yn goruchwylio cyflenwi’r ddarpariaeth yn y lleoliad, ac yn sicrhau diogelwch, lles a mwynhad pob plentyn.
Rhan allweddol o’r rôl yw sicrhau bod darpariaeth yn hygyrch, yn gynhwysol â phlant yn flaenoriaeth – tra’n gwreiddio Egwyddorion Gwaith Chwarae ymhob agwedd o’r gwaith.
Mae cymhwyster chwarae lefel 3, neu Lefel 3 CCPLD/Lefel 3 Ymarfer Ieuenctid ac wedi cofrestru ar gymhwyster Chwarae Lefel 3 o fewn chwe mis yn y swydd, yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.