Archwiliwch
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi crynodeb o ymatebion i’r ymgynghoriad ar gofrestru’n broffesiynol y gweithlu gofal plant a gwaith chwarae.
Lansiwyd yr ymgynghoriad 14 wythnos gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Tachwedd 2023. Cafwyd cyfanswm o 202 o ymatebion o 202 o ymatebion, gyda 147 o ymatebion gan unigolion a sefydliadau sy’n gweithio yn y sector gofal plant a gwaith chwarae, yn cynnwys Chwarae Cymru.
Roedd yr ymgynghoriad yn gofyn am farn ar:
- a ddylai fod cofrestriad gorfodol ar gyfer gweithwyr chwarae ai peidio
- pwy ddylai gael ei gofrestru
- graddfeydd amser.
Bydd Llywodraeth Cymru nawr yn ystyried yn camau nesaf ynghylch datblygu cofrestr gweithlu gofal plant a gwaith chwarae. Bydd angen i unrhyw waith pellach ynghylch cofrestr gweithlu ar gyfer y gweithlu gofal plant a gwaith chwarae gynnwys ymchwilio’r materion a’r pryderon a godwyd yn yr ymatebion i’r ymgynghoriad.