Cym | Eng

Llyfrgell adnoddau

Amddifadedd chwarae: yr achosion a’r canlyniadau ar gyfer datblygiad plant, a photensial gwaith chwarae

Pwnc

Llyfrgell adnoddau

Dyddiad cyhoeddi

12.03.2024

Darllen yr adnodd

Amddifadedd chwarae: yr achosion a’r canlyniadau ar gyfer datblygiad plant, a photensial gwaith chwarae

Awdur: Yr Athro Emeritws Fraser Brown
Dyddiad: Chwefror 2024

Mae’r daflen wybodaeth hon am amddifadedd chwarae a photensial gwaith chwarae i oresgyn y canlyniadau. Mae wedi’i hanelu at ddarparwyr chwarae, ymchwilwyr chwarae a’r rhai sydd â diddordeb mewn chwarae, iechyd a lles plant.

Mae’r daflen yn archwilio ymchwil ar y cysylltiadau rhwng dirywiad mewn cyfleoedd plant i chwarae a materion iechyd meddwl a chymdeithasol cynyddol. Mae’n edrych ar:

  • y cysyniad o amddifadedd chwarae a’i ystyr
  • y berthynas rhwng chwarae a lles meddyliol a datblygiad cymdeithasol plant
  • canlyniadau amddifadedd chwarae
  • effaith gadarnhaol defnyddio dull gwaith chwarae.

Wedi’i gyhoeddi’n wreiddiol yn 2013, un o’r ychwanegiadau mwyaf defnyddiol i’r fersiwn newydd yw tabl lle mae Fraser yn rhoi crynodeb trylwyr o fanteision chwarae a pheryglon amddifadedd chwarae.

Mae’r daflen wybodaeth yn ymdrin â sbectrwm amddifadedd chwarae – o achosion o esgeuluso ac amddifadedd plant eithafol i’r dylanwadau sy’n effeithio ar chwarae plant yn niwylliant heddiw. Gan dynnu ar ymchwil Fraser ei hun a thystiolaeth arall ar draws y sbectrwm hwn, mae’n trafod sut y gall agwedd gwaith chwarae fynd i’r afael â chanlyniadau negyddol amddifadedd chwarae.

Cyhoeddiadau Cysylltiedig

Gweld yr holl cyhoeddiadau

Llyfrgell adnoddau | 18.07.2024

Gwaith chwarae – beth sy’n ei wneud mor arbennig? Gwaith chwarae – beth sy’n ei wneud mor arbennig?

Taflen wybodaeth ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am waith chwarae a rôl y gweithiwr chwarae.

Gweld

Canllaw | 28.05.2024

Ysgol chwarae-gyfeillgar Ysgol chwarae-gyfeillgar

Mae’n darparu gwybodaeth ar bolisi ac ymarfer i helpu cymunedau ysgolion fabwysiadu agwedd ysgol gyfan i gefnogi hawl plant i chwarae.

Gweld

Cylchgrawn | 12.03.2024

Chwarae dros Gymru – rhifyn 62 Chwarae dros Gymru – rhifyn 62

Rhifyn 'Chwarae a lles – cip arall' o'n cylchgrawn

Gweld
Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors