Cysylltwch â ni
Cym | Eng

Newyddion

Hwb i ymchwil ar wreiddio hawliau plant yn y dosbarth

Date

12.01.2023

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae ymchwilwyr sy’n archwilio sut y gellir gwreiddio hawliau plant ifanc mewn ymarfer addysgu wedi sicrhau hwb ariannol o £700,000 gan Raglen Ymchwil Addysg y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).

Mae’r prosiect tair blynedd sy’n cynnwys Prifysgolion Cymru yn archwilio’r heriau o roi bwriad polisi ar waith mewn ymarfer addysg. Mae’n canolbwyntio ar hawliau cyfranogiad plant ifanc, sut mae’r rhain yn cael eu harfer yn yr ystafell ddosbarth, a sut y gellir eu cymhwyso’n gyson ar gyfer pob plentyn.

Mae’r prosiect yn mabwysiadu dulliau creadigol i gydweithio â phlant a’u haddysgwyr. Mae’n cael ei gynnal gan gynrychiolwyr o Brifysgolion Abertawe a Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, UWE Bryste a’r ymgynghorydd addysgegol ac artist-addysgwr Debi Keyte-Hartland.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors