Cym | Eng

Llyfrgell adnoddau

Yr hyn mae plant yn ei ddweud am chwarae yng Nghymru: 2025

Pwnc

Ymchwil

Dyddiad cyhoeddi

17.10.2025

Darllen yr adnodd

Yr hyn mae plant yn ei ddweud am chwarae yng Nghymru: 2025

Awdur: Dr David Dallimore
Dyddiad: Hydref 2025

Yn yr adroddiad ymchwil hwn mae 7,924 o blant ac arddegwyr yn dweud wrthym pa mor fodlon ydyn nhw gyda eu cyfleoedd i chwarae yn eu hardal leol. Wedi ei ysgrifennu gan Dr David Dallimore, mae Yr hyn mae plant yn ei ddweud am chwarae yng Nghymru: 2025 yn cyflwyno darlun o fodlonrwydd chwarae plant.

Mae’r adroddiad yn rhoi cyfle i leisiau plant ac arddegwyr gael eu clywed, gan danlinellu:

  • pwysigrwydd chwarae yn eu bywydau
  • yr hyn sy’n dda a’r hyn sydd ddim cystal am y cyfleoedd chwarae yn eu hardal leol
  • pa mor fodlon ydyn nhw gyda phryd, sut a ble y gallant chwarae.

I bwysleisio lleisiau plant drwy’r adroddiad, mae’n cynnwys sylwadau craff gan blant ac arddegwyr o bob oed o bob cwr o Gymru. Mae plant yn dweud, ran amlaf o lawer, bod chwarae’n hanfodol ar gyfer eu hapusrwydd, eu datblygiad a’u bywyd cymdeithasol. Mae’r neges gyson gan blant yn glir: maen nhw eisiau mwy o amser, mannau gwell, a mwy o ryddid i chwarae.

Mae’r mwyafrif o blant yn gwerthfawrogi a mwynhau eu cyfleoedd i chwarae, ond mae ambell grŵp o blant ac arddegwyr yn sefyll allan yn eu hadrodd am lefel bodlonrwydd isel gyda’u cyfleoedd chwarae, gan gynnwys merched, plant anabl a phlant ethnig lleiafrifol.

Crëwyd yr adroddiad yn defnyddio data o ganlyniadau Arolygon Bodlonrwydd Chwarae awdurdodau lleol. Mae awdurdodau lleol yn defnyddio’r arolwg i ymgynghori â phlant ac arddegwyr fel rhan o’u Asesiadau Digonolrwydd Chwarae. O’r 22 awdurdod lleol, llwyddodd 16 i ddarparu data dienw ar ffurf y gellid ei ddefnyddio ar gyfer yr adroddiad hwn. Mae’r adroddiad wedi ei gefnogi gan ddadansoddiad ansoddol a gynhaliwyd gan y Dr Michaela James a’r Dr Hope Jones o Brifysgol Abertawe.

Cyhoeddiadau Cysylltiedig

Gweld yr holl cyhoeddiadau

Ymchwil | 08.10.2025

Tir cyffredin: Archwilio ymarfer gwaith chwarae a gwaith ieuenctid yng Nghymru Tir cyffredin: Archwilio ymarfer gwaith chwarae a gwaith ieuenctid yng Nghymru

Adroddiad ymchwil ar y cysylltiadau rhwng ymarfer gwaith chwarae a gwaith ieuenctid

Gweld

Llyfrgell adnoddau | 27.11.2024

Enghreifftiau o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae Enghreifftiau o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae

Enghreifftiau o gamau gweithredu a gymerwyd yn lleol – gan awdurdodau lleol a’u partneriaid – i gefnogi chwarae plant, fel rhan o waith digonolrwydd chwarae. Mae pob enghraifft yn anelu i ddangos y cyd-destun unigryw, y prosesau a’r bobl fu’n rhan o’r prosiect.

Gweld

Llyfrgell adnoddau | 31.01.2024

Crynodeb – Chwarae a lles: Adolygiad o ymchwil diweddar i chwarae plant, polisi cymdeithasol ac ymarfer, gyda ffocws ar Gymru Crynodeb – Chwarae a lles: Adolygiad o ymchwil diweddar i chwarae plant, polisi cymdeithasol ac ymarfer, gyda ffocws ar Gymru

Mae hwn yn grynodeb o 'Chwarae a lles', cyhoeddiad a fydd ar gael yn fuan.

Gweld
Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors