Llyfrgell adnoddau
Yr hyn mae plant yn ei ddweud am chwarae yng Nghymru: 2025
Pwnc
Ymchwil
Dyddiad cyhoeddi
17.10.2025
Darllen yr adnodd
Awdur: Dr David Dallimore
Dyddiad: Hydref 2025
Yn yr adroddiad ymchwil hwn mae 7,924 o blant ac arddegwyr yn dweud wrthym pa mor fodlon ydyn nhw gyda eu cyfleoedd i chwarae yn eu hardal leol. Wedi ei ysgrifennu gan Dr David Dallimore, mae Yr hyn mae plant yn ei ddweud am chwarae yng Nghymru: 2025 yn cyflwyno darlun o fodlonrwydd chwarae plant.
Mae’r adroddiad yn rhoi cyfle i leisiau plant ac arddegwyr gael eu clywed, gan danlinellu:
- pwysigrwydd chwarae yn eu bywydau
- yr hyn sy’n dda a’r hyn sydd ddim cystal am y cyfleoedd chwarae yn eu hardal leol
- pa mor fodlon ydyn nhw gyda phryd, sut a ble y gallant chwarae.
I bwysleisio lleisiau plant drwy’r adroddiad, mae’n cynnwys sylwadau craff gan blant ac arddegwyr o bob oed o bob cwr o Gymru. Mae plant yn dweud, ran amlaf o lawer, bod chwarae’n hanfodol ar gyfer eu hapusrwydd, eu datblygiad a’u bywyd cymdeithasol. Mae’r neges gyson gan blant yn glir: maen nhw eisiau mwy o amser, mannau gwell, a mwy o ryddid i chwarae.
Mae’r mwyafrif o blant yn gwerthfawrogi a mwynhau eu cyfleoedd i chwarae, ond mae ambell grŵp o blant ac arddegwyr yn sefyll allan yn eu hadrodd am lefel bodlonrwydd isel gyda’u cyfleoedd chwarae, gan gynnwys merched, plant anabl a phlant ethnig lleiafrifol.
Crëwyd yr adroddiad yn defnyddio data o ganlyniadau Arolygon Bodlonrwydd Chwarae awdurdodau lleol. Mae awdurdodau lleol yn defnyddio’r arolwg i ymgynghori â phlant ac arddegwyr fel rhan o’u Asesiadau Digonolrwydd Chwarae. O’r 22 awdurdod lleol, llwyddodd 16 i ddarparu data dienw ar ffurf y gellid ei ddefnyddio ar gyfer yr adroddiad hwn. Mae’r adroddiad wedi ei gefnogi gan ddadansoddiad ansoddol a gynhaliwyd gan y Dr Michaela James a’r Dr Hope Jones o Brifysgol Abertawe.