Polisi a deddfwriaeth chwarae
Ein hymchwil
Archwiliwch
Mae Chwarae Cymru wedi comisiynu a chyhoeddi amrywiaeth o astudiaethau ymchwil yn ymwneud â chwarae plant a gwaith chwarae.
Ymchwilio i ddigonolrwydd chwarae
Ers cychwyn Dyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Llywodraeth Cymru yn 2012, mae Chwarae Cymru wedi comisiynu pedair astudiaeth ymchwil ar raddfa fechan. Mae’r rhain yn amlinellu profiadau awdurdodau lleol wrth weithredu’r ddyletswydd i asesu a sicrhau bod eu hardal yn darparu digon o gyfleoedd i blant chwarae. Mae’r astudiaethau’n edrych ar y llwyddiannau a’r heriau.
Mae’r pedair astudiaeth yn cydnabod bod y Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a’r dogfennau ategol a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru – yn rheoliadau, cyfarwyddyd statudol, a’r pecyn cymorth – yn cytuno mai: ‘chwarae yw’r hyn y mae plant yn ei wneud pan mae’r amodau’n gywir a’i sefydlu fel eu ffordd nhw o gynnal eu hiechyd a’u lles eu hunain.’
Cynhaliwyd y ddwy astudiaeth gyntaf yn 2013 a 2014 gan y Dr Wendy Russell a’r diweddar Dr Stuart Lester. Bu Wendy yn rhan hefyd o ymchwil 2019 a 2020, gan gydweithio gyda Mike Barclay, Charlotte Derry a Ben Tawil.
I ofyn am gopi o unrhyw un o’r adroddiadau ymchwil llawn, e-bostiwch ni.
Ei gwneud hi’n bosibl i gyflawni digonolrwydd chwarae: Archwilio’r amodau sy’n cefnogi awdurdodau lleol i sicrhau cyfleoedd digonol i blant yng Nghymru chwarae
Gorffennaf 2020
Mae’r astudiaeth hon yn canolbwyntio ar yr amodau sy’n helpu awdurdodau lleol i gymryd camau gweithredu i gefnogi cyfleoedd plant i chwarae. Mae’n gwneud 13 o argymhellion ar gyfer camau gweithredu all helpu awdurdodau lleol i gyflawni eu cyfrifoldebau Dyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae.
Mae hefyd yn cynnwys 26 o enghreifftiau o gamau gweithredu a gymerodd awdurdodau lleol i gefnogi chwarae plant. Mae pob enghraifft yn anelu i arddangos y cyd-destunau, y prosesau a’r bobl unigryw oedd ynghlwm â phob un, a chynnig syniadau y gellid eu haddasu i’r bobl hynny sy’n gweithio i gefnogi chwarae plant.
Hawl Plant i Chwarae yng Nghymru: Chwe blynedd o straeon a newid ers cychwyn Dyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Cymru
Hydref 2019
Mae’r astudiaeth hon yn archwilio canfyddiadau sut y mae cyfleoedd plant i chwarae wedi newid ers cychwyn y Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae. Canfu’r ymchwil, a gynhaliwyd rhwng mis Ionawr a Mawrth 2019, y cyflawnwyd llawer, er bod hwn yn gyfnod heriol i lywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus. Roedd cyflawniadau’n cynnwys:
- gweithio mewn partneriaeth
- cynyddu ymwybyddiaeth am hawl plant i chwarae
- ail-gyflunio gwasanaethau a mannau i greu cyfleoedd i chwarae.
Towards Securing Sufficient Play Opportunities: A short study into the preparation undertaken forthe commencement of the second part of the Welsh Government’s Play Sufficiency Duty to secure sufficient play opportunities
Mehefin 2014
Mae’r astudiaeth hon yn edrych yn ôl dros flwyddyn gyntaf y broses digonolrwydd cyfleoedd chwarae statudol, ac ymlaen at gychwyn ail ran y Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae. Mae’r ddyletswydd yn mynnu y dylai awdurdodau lleol sicrhau bod eu hardal leol yn darparu cyfleoedd digonol i blant chwarae.
Pwrpas yr astudiaeth oedd i edrych ar:
- yr hyn ddigwyddodd dros y 12 mis wedi cyflwyno’r Asesiadau Digonolrwydd Chwarae cyntaf i Lywodraeth Cymru yn 2013
- sut y gwnaeth awdurdodau lleol dethol ymbaratoi i ymateb i gychwyn ail ran y Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae.
(ond ar gael yn Saesneg)
Welingtons Croen Llewpard, Het Silc a Phiben Sugnwr Llwch: Dadansoddiad o ddyletswydd Asesiad Digonolrwydd Chwarae Cymru
Mai 2013
Mae’r astudiaeth hon yn archwilio sut y bu i awdurdodau lleol ymateb i ran gyntaf y Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae i asesu os yw eu hardal yn darparu digon o gyfleoedd chwarae ar gyfer plant.
Mae’n defnyddio data o Asesiadau Digonolrwydd Chwarae 20 o awdurdodau lleol, ynghyd â dogfennau perthnasol eraill a chyfweliadau. Mae’r adroddiad yn cloi gyda phedwar ‘amod allweddol’ argymelledig fyddai’n cefnogi awdurdodau lleol i gynnal y momentwm a gynhyrchir gan y broses Asesiad Digonolrwydd Chwarae. Yr amodau allweddol hyn yw:
- Cynnal dialog
- Meithrin cymuned barhaus o ddysg ac arfer
- Cydnabod cymhwysedd plant a chyfrifoldeb oedolion tuag at gyd-ddoethineb
- Arbrofi.
Ymchwilio i chwarae plant
Adolygiad llenyddiaeth – Chwarae a lles – Adolygiad o ymchwil diweddar i chwarae plant, polisi cymdeithasol ac ymarfer, gyda ffocws ar Gymru
Hydref 2024
Mae’r adolygiad llenyddiaeth hwn yn canolbwyntio ar bwysigrwydd chwarae plant a lles. Wedi ei gynnal gan Dr Wendy Russell, gyda Mike Barclay a Ben Tawil o Ludicology, mae’n adolygiad o ymchwil diweddar i chwarae plant, polisi cymdeithasol ac ymarfer, gyda ffocws ar Gymru.
Mae’r adolygiad llenyddiaeth, a gomisiynwyd gan Chwarae Cymru, yn archwilio’r cysylltiadau rhwng digonolrwydd cyfleoedd chwarae a lles plant. Mae’n tynnu’n bennaf ar ymchwil academaidd, ar draws ystod o ddisgyblaethau, ond mae hefyd yn tynnu ar lenyddiaeth broffesiynol, eiriolaeth ac ymarferydd ble fo’n briodol. Mae’r adolygiad yn canolbwyntio ar rôl chwarae mewn lles plant, patrymau chwarae plant, a chefnogaeth oedolion i chwarae plant.
Wedi ei rannu’n bump pennod, mae’n cynnwys gwybodaeth am:
- gefndir, cwmpas ac arddull yr adolygiad llenyddol
- cyd-destun a fframio’r adolygiad
- rôl chwarae mewn lles plant
- chwarae plant heddiw
- cefnogi chwarae plant.
Cwblhawyd yr adolygiad 10 mlynedd ers cychwyn y Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a thra bod Llywodraeth Cymru yn cynnal ei Adolygiad Gweinidogol o Chwarae. Bydd y dystiolaeth a gasglwyd yn yr adolygiad llenyddiaeth yn hysbysu’r gwaith parhaus hwn. Cyflawnwyd y mwyafrif o’r ymchwil ar gyfer yr adolygiad rhwng Ebrill 2021 ac Ionawr 2023 ac mae’n adlewyrchu’r hyn oedd ar gael ar y pryd.
Crynodeb – Chwarae a lles – Adolygiad o ymchwil diweddar i chwarae plant, polisi cymdeithasol ac ymarfer, gyda ffocws ar Gymru
Ionawr 2024
Mae hwn yn grynodeb o Chwarae a lles, cyhoeddiad a fydd ar gael yn fuan. Wedi ei gynnal gan Dr Wendy Russell, gyda Mike Barclay a Ben Tawil o Ludicology, mae’n adolygiad o ymchwil diweddar i chwarae plant, polisi cymdeithasol ac ymarfer, gyda ffocws ar Gymru.
Mae’r adolygiad llenyddol yn archwilio’r cysylltiadau rhwng digonolrwydd cyfleoedd chwarae a lles plant. Mae’n tynnu’n bennaf ar ymchwil academaidd, ar draws ystod o ddisgyblaethau, ond mae hefyd yn tynnu ar lenyddiaeth broffesiynol, eiriolaeth ac ymarferydd ble fo’n briodol. Mae’r adolygiad yn canolbwyntio ar rôl chwarae mewn lles plant, patrymau chwarae plant, a chefnogaeth oedolion i chwarae plant.
Mae’r crynodeb yn cynnwys gwybodaeth am:
- gwmpas ac arddull yr adolygiad
- trosolwg a darganfyddiadau o bob un o benodau’r adolygiad
- cynnig yr awduron am ddull galluogrwydd perthynol tuag at les plant drwy gamau gweithredu i greu amodau sy’n cefnogi chwarae
- sylwadau clo ar atebolrwydd oedolion am chwarae plant.
Cwblhawyd yr adolygiad 10 mlynedd ers cychwyn y Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a thra bod Llywodraeth Cymru yn cynnal ei Adolygiad Gweinidogol o Chwarae. Bydd y dystiolaeth a gasglwyd yn yr adolygiad llenyddiaeth yn hysbysu’r gwaith parhaus hwn.
Papur briffio – Chwarae a lles: Adolygiad o ymchwil diweddar i chwarae plant, polisi cymdeithasol ac ymarfer, gyda ffocws ar Gymru
Mehefin 2023
Mae’r papur briffio hwn yn cyflwyno ein hadolygiad llenyddiaeth, Chwarae a lles: Adolygiad o ymchwil diweddar i chwarae plant, polisi cymdeithasol ac ymarfer, gyda ffocws ar Gymru, a fydd ar gael yn fuan.
Cwblhawyd y gwaith 10 mlynedd ers cychwyn y Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a thra bod Llywodraeth Cymru yn cynnal yr Adolygiad Gweinidogol o Chwarae. Bydd y dystiolaeth a gasglwyd yn yr adolygiad llenyddiaeth yn hysbysu’r gwaith parhaus hwn.
Mae’r papur briffio yn cynnwys gwybodaeth am:
- Gefndir a chwmpas yr adolygiad
- Datblygiadau diweddar mewn ymchwil plentyndod a chwarae
- Datblygiadau polisi
- Sut mae chwarae’n cyfrannu at les
- Chwarae plant heddiw.
Mae’r papur briffio yn cynnig dull galluogrwydd perthynol (a dynnwyd o’r llenyddiaeth) fel fframwaith newydd ar gyfer meddwl am chwarae a lles plant. Nid yw’n grynodeb hollgynhwysol o ganfyddiadau’r adolygiad – ni fyddai’n bosib gwneud cyfiawnder ag ehangder, dyfnder, cymhlethdod ac amrywiaeth yr ymchwil a adolygwyd mewn dogfen mor fyr â hon.
Ymchwilio i farn plant am chwarae
Yr hyn sydd gan blant i’w ddweud am chwarae yng Nghymru: 2022
Medi 2023
Mae’r adroddiad hwn yn tynnu ynghyd ddata o holiaduron a gwblhawyd gan bron i 7,000 o blant ar draws 15 o awdurdodau lleol yng Nghymru fel rhan o’u Hasesiadau Digonolrwydd Chwarae yn 2022.
Mae’r adroddiad yn cynnwys canfyddiadau am fodlonrwydd plant ac arddegwyr gyda’r amser, lle a chaniatâd sydd ganddynt i chwarae, yn ogystal ag effaith COVID-19 ar eu cyfleoedd i chwarae. I bwysleisio lleisiau plant drwy’r adroddiad, mae’n cynnwys sylwadau craff gan blant ac arddegwyr o bob oed o bob cwr o Gymru.
Mae’r rhan fwyaf o blant ac arddegwyr ar draws Cymru wedi dweud wrthym, pan maent yn cael caniatâd i fynd allan, yn teimlo’n ddiogel, ac yn gallu chwarae yn y mannau ble maent am chwarae, mae’r mwyafrif yn hapus gyda’r dewis o fannau chwarae. Fodd bynnag, mae ambell grŵp o blant ac arddegwyr yn sefyll allan yn eu hadrodd am lefel bodlonrwydd isel gyda’u cyfleoedd chwarae. Mae’r rhain yn cynnwys plant ac arddegwyr anabl a phlant ac arddegwyr o leiafrifoedd ethnig.
Ysgrifennwyd yr adroddiad hwn gan Dr David Dallimore, ymgynghorydd ymchwil sy’n arbenigo mewn chwarae a gofal plant y blynyddoedd cynnar.
Yr hyn sydd gan blant i’w ddweud am chwarae yng Nghymru
Tachwedd 2019
Mae’r adroddiad hwn yn tynnu ynghyd ddata o holiaduron a gwblhawyd gan bron i 6,000 o blant ar draws 13 o awdurdodau lleol yng Nghymru fel rhan o’u Hasesiadau Digonolrwydd Chwarae yn 2019.
Mae rhaid i awdurdodau lleol ddefnyddio’r templed Asesiad Digonolrwydd Chwarae i ddangos sut y maen nhw wedi ymgynghori gyda phlant. Mae Pecyn Cymorth Asesu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Llywodraeth Cymru yn cynnwys arolwg y gall awdurdodau lleol ei ddefnyddio i gasglu data ar farn plant am y cyfleoedd i chwarae yn eu cymdogaethau. Mae’r adroddiad hwn yn archwilio’r canlyniadau a gasglwyd trwy’r arolwg.
Mae’r adroddiad yn dangos pan roddir caniatâd iddynt fynd allan a phan allant chwarae yn y mannau yr hoffent, mae’r mwyafrif o blant yn fodlon gyda’u cyfleoedd chwarae. Er hynny, mae’r adroddiad yn dynodi nifer o rwystrau i chwarae, yn cynnwys chwarae’r tu allan yn eu cymdogaethau lleol.
Ysgrifennwyd yr adroddiad hwn gan Dr David Dallimore o Brifysgol Bangor.
Ceir hyd i gopi o’r arolwg yn y daflen wybodaeth Yr Arolwg Bodlonrwydd Chwarae: Canllaw i’w ddefnyddio’n lleol.
Ymchwilio i’r gweithlu chwarae: Astudiaeth Gweithlu Chwarae Cymru 2021
Awst 2022
Mae’r astudiaeth hon yn cynnig cipolwg ar y gweithlu chwarae yng Nghymru. Mae’n canolbwyntio ar dri maes sy’n gorgyffwrdd: strategaeth, cysylltiadau rhwng y strategol ac ymarfer, a’r gweithlu chwarae.
Mae’r astudiaeth yn canolbwyntio ar bobl sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc. I hysbysu’r astudiaeth, casglwyd data trwy arolygon ar-lein, cyfweliadau a grŵp ffocws.
Mae’r crynodeb gweithredol yn cynnwys rhestr o 16 o ganfyddiadau, yn ogystal â dadansoddiad o’r canlyniadau gan gynnwys cymariaethau rhwng canfyddiadau 2021 a’r rheini o’r astudiaeth gweithlu diwethaf yn 2008. Defnyddir y canfyddiadau hyn i hysbysu Cynllun Datblygu Gweithlu Chwarae Cymru.
Cynhaliwyd yr astudiaeth gan y Dr Pete King a’r Dr Justine Howard o Brifysgol Abertawe.
Os hoffech chi gopi o’r adroddiad ymchwil llawn, e-bostiwch ni.