Cym | Eng

Newyddion

Ymgynghoriad: Newidiadau i’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir

Date

30.06.2022

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y newidiadau arfaethedig i’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant, sydd yn berthnasol i bob person, gwarchodwr plant a darparwr gofal dydd (gan gynnwys darpariaeth chwarae mynediad agored) cofrestredig i blant hyd at 12 oed. Mae hwn hefyd o ddiddordeb i bartïon eraill, megis:

  • cyrff cynrychioliadol a sefydliadau sy’n gweithio gyda’r sector gwarchod plant
  • y sector chwarae a gofal dydd
  • awdurdodau lleol
  • rhieni.

Mae’r ymgynghoriad yn cynnig newidiadau sy’n ymateb yn bennaf i argymhellion allweddol o Adolygiad o’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir a gyhoeddodd ei adroddiad yn 2019.

Mae’r newidiadau a gynigir i’r safonau fel a ganlyn:

  • gofynion cymorth cyntaf (Safon 10)
  • gwarchodwyr plant sydd â chynorthwywyr (Safon 13) (gwarchodwyr plant)
  • cymwysterau gofal plant darparwyr gofal dydd (Safon 13) (gofal dydd)
  • aelod staff ychwanegol (Safon 15)
  • ansawdd (Safon 18)
  • diogelu (Safon 20).

Y dyddiad cau i ymateb yw 7 Hydref 2022.

Bydd ymateb drafft Chwarae Cymru i’r ymgynghoriad ar gael yn fuan – efallai y byddwch yn dymuno ei ddefnyddio i hysbysu eich ymateb eich hun. 

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors