Archwiliwch
Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y newidiadau arfaethedig i’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant, sydd yn berthnasol i bob person, gwarchodwr plant a darparwr gofal dydd (gan gynnwys darpariaeth chwarae mynediad agored) cofrestredig i blant hyd at 12 oed. Mae hwn hefyd o ddiddordeb i bartïon eraill, megis:
- cyrff cynrychioliadol a sefydliadau sy’n gweithio gyda’r sector gwarchod plant
- y sector chwarae a gofal dydd
- awdurdodau lleol
- rhieni.
Mae’r ymgynghoriad yn cynnig newidiadau sy’n ymateb yn bennaf i argymhellion allweddol o Adolygiad o’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir a gyhoeddodd ei adroddiad yn 2019.
Mae’r newidiadau a gynigir i’r safonau fel a ganlyn:
- gofynion cymorth cyntaf (Safon 10)
- gwarchodwyr plant sydd â chynorthwywyr (Safon 13) (gwarchodwyr plant)
- cymwysterau gofal plant darparwyr gofal dydd (Safon 13) (gofal dydd)
- aelod staff ychwanegol (Safon 15)
- ansawdd (Safon 18)
- diogelu (Safon 20).
Y dyddiad cau i ymateb yw 7 Hydref 2022.
Bydd ymateb drafft Chwarae Cymru i’r ymgynghoriad ar gael yn fuan – efallai y byddwch yn dymuno ei ddefnyddio i hysbysu eich ymateb eich hun.