Archwiliwch
Mae Gofalwn Cymru wedi lansio ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o brentisiaethau yn y sectorau gofal plant a gofal cymdeithasol.
Nod yr ymgyrch yw arddangos y cyfleoedd datblygu sydd ar gael wrth ennill cyflog, a denu pobl i ystyried prentisiaeth mewn gofal plant neu ofal cymdeithasol. Mae’n cynnwys astudiaethau achos o brentisiaid o bob rhan o’r sectorau, gan gynnwys y rheini sy’n gweithio mewn lleoliadau gwaith ieuenctid a gofal plant.
Mae’r ymgyrch hefyd yn darparu gwybodaeth i gyflogwyr am fanteision recriwtio prentisiaid a dolenni i ganllawiau ar recriwtio.
Rheolir rhaglen Gofalwn Cymru gan Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae’n ymroddedig i gefnogi ymwybyddiaeth o’r sectorau gofal a helpu cyflogwyr gyda recriwtio.