Cym | Eng

Newyddion

“Pan o’n i dy oed di”

Date

19.04.2022

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae ymgyrch newydd Plentyndod Chwareus, ‘Pan o’n i dy oed di’, yn anelu i herio rhagdybiaethau am ymddygiad arddegwyr mewn mannau cyhoeddus. Mae’r ymgyrch yn ein hannog i gyd – rhieni ac oedolion eraill yn y gymuned – i fod yn fwy goddefgar o arddegwyr mewn mannau a rennir.

Mae’n anelu oedolion am y tebygrwydd rhwng cenedlaethau, achos, fel mae’n digwydd dydyn ni ddim mor wahanol wedi’r cwbwl…

Er bod chwarae, neu ‘gwrdd â ffrindiau’, yn edrych yn wahanol heddiw diolch i gyflwyniad technoleg a newid mewn arferion cymdeithasol, mae’r ymgyrch wedi ei dylunio i ysgogi hel atgofion am sut oedd oedolion yn chwarae yn eu harddegau a’u hannog i rannu eu hatgofion o chwarae yn eu harddegau.

Dywed Keith Towler, Ymddiriedolwr Chwarae Cymru:

‘Pan welwn ni arddegwyr a phobl ifanc o gwmpas y tu allan yn chwarae a chael hwyl, mae’n arwydd o gymuned iach. Pan oeddwn i’n Gomisiynydd Plant roeddwn yn digalonni pan fyddai pobl ifanc yn dweud nad oedd oedolion, yn aml iawn, am iddynt fod y tu allan. Eu bod yn cael eu cyhuddo o fod yn wrthgymdeithasol pan mai’r cwbl yr oeddent yn ei wneud oedd chwarae neu gwrdd y tu allan yn y parc lleol. Mae’n wir, wrth gwrs, pan fydd arddegwyr yn chwarae y gallant fod braidd yn swnllyd, ond mae mor bwysig i gymunedau ledled Cymru ganiatáu i bobl ifanc chwarae yn ein mannau cyhoeddus.’

Ychwanegodd Marianne Mannello, Cyfarwyddwraig Gynorthwyol, Chwarae Cymru:

‘Mae gan arddegwyr awydd i ryngweithio’n gymdeithasol, i fod gyda’u ffrindiau a bod yn rhan o griw ac mae hyn yn ysgogaeth gref i’w defnydd o fannau fel strydoedd, trefi, pentrefi a chanolfannau siopa. Mae teimlo bod ganddynt gysylltiad a’u bod yn rhan o’r amgylcheddau bob dydd hyn yn cael effaith fawr ar ymdeimlad arddegwyr o berthyn, lefelau hunan-barch a’u lles cymdeithasol ac emosiynol. Gall oedolion helpu trwy eiriol dros hawl arddegwyr i chwarae. Trwy gofio ein harddegau ein hunain, gallwn ddeall yn well a bod yn fwy goddefgar o ymddygiad chwareus arddegwyr.’

Cymryd rhan

Rhannwch eich atgofion o chwarae yn eich arddegau ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #PanOnIDyOedDi.

Trwy ymwneud â’r ymgyrch a chyfrannu iddi, gallwch ein helpu i gyrraedd mwy o bobl a rhannu ein negeseuon gydag arddegwyr ac oedolion dros Gymru gyfan. Os hoffai eich mudiad neu’ch lleoliad gymryd rhan drwy rannu gwybodaeth am yr ymgyrch, cysylltwch â ni.

Rhagor o wybodaeth

 

 

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors