Archwiliwch
Mae’r UK Children’s Play Policy Forum wedi cyhoeddi datganiad cyn Etholiad Cyffredinol y DU ar 4 Gorffennaf 2024. Mae’r datganiad yn amlygu’r angen am gamau penodol gan Lywodraeth y DU i fynd i’r afael â’r dirywiad difrifol mewn chwarae dros y degawdau diwethaf.
Mae’r datganiad yn canolbwyntio ar yr angen i Lywodraeth newydd y DU gyflawni camau gweithredu â ffocws ar gyfer chwarae gan gynnwys:
- cymorth i fudiadau chwarae cenedlaethol fel partneriaid allweddol ar gyfer newid
- datblygu strategaethau chwarae yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, yn seiliedig ar ddyletswydd digonolrwydd chwarae, gan adlewyrchu datblygiadau yng Nghymru a’r Alban
- cymorth i ddatblygu’r gweithlu gwaith chwarae.
Amlygwyd yr angen am weithrediad brys gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn ystod ei adolygiad yn 2023 o gydymffurfiaeth Llywodraeth y DU â’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn. Yn ei arsylwadau cloi, pwysleisiodd y Pwyllgor yr angen am ymateb strategol, cynhwysfawr gan Lywodraeth y DU gyda’r nod o fynd i’r afael â diffygion chwarae sylweddol.