Cym | Eng

Newyddion

Datganiad cyn-etholiad 2024 y UK Children’s Play Policy Forum

Date

02.07.2024

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae’r UK Children’s Play Policy Forum wedi cyhoeddi datganiad cyn Etholiad Cyffredinol y DU ar 4 Gorffennaf 2024. Mae’r datganiad yn amlygu’r angen am gamau penodol gan Lywodraeth y DU i fynd i’r afael â’r dirywiad difrifol mewn chwarae dros y degawdau diwethaf.

Mae’r datganiad yn canolbwyntio ar yr angen i Lywodraeth newydd y DU gyflawni camau gweithredu â ffocws ar gyfer chwarae gan gynnwys:

  • cymorth i fudiadau chwarae cenedlaethol fel partneriaid allweddol ar gyfer newid
  • datblygu strategaethau chwarae yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, yn seiliedig ar ddyletswydd digonolrwydd chwarae, gan adlewyrchu datblygiadau yng Nghymru a’r Alban
  • cymorth i ddatblygu’r gweithlu gwaith chwarae.

Amlygwyd yr angen am weithrediad brys gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn ystod ei adolygiad yn 2023 o gydymffurfiaeth Llywodraeth y DU â’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn. Yn ei arsylwadau cloi, pwysleisiodd y Pwyllgor yr angen am ymateb strategol, cynhwysfawr gan Lywodraeth y DU gyda’r nod o fynd i’r afael â diffygion chwarae sylweddol.

Rhagor o wybodaeth

 

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors