Cym | Eng

Newyddion

Awgrymiadau anhygoel ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Chwarae

Date

21.05.2024

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi mabwysiadu Diwrnod Rhyngwladol Chwarae blynyddol ar 11 Mehefin bob blwyddyn. Mae’r diwrnod yn cydnabod hawl plant i chwarae a’i bwysigrwydd ar gyfer eu lles.

Mae Chwarae Cymru yn galw ar ysgolion i ddathlu’r diwrnod drwy warchod amser chwarae. Rydym yn gofyn i ysgolion roi amser ychwanegol i bob plentyn chwarae – er enghraifft, drwy wneud amser cinio yn hirach neu drwy ddarparu amser chwarae ychwanegol.

Yn ystod y diwrnod ysgol, dylai plant dderbyn digonedd o amser a lle i chwarae’n rhydd gyda’u ffrindiau. Mae plant yn dweud bod amserau chwarae yn rhan bwysig o’r diwrnod ysgol. Mae Diwrnod Rhyngwladol Chwarae yn gyfle da i ysgolion warchod amser chwarae a meddwl am sut y gellir cynnwys mwy o amser ar gyfer chwarae bob dydd.

I gefnogi ysgolion i roi mwy o amser i blant chwarae ar Ddiwrnod Rhyngwladol Chwarae, rydym wedi datblygu rhestr o awgrymidau anhygoel. Mae’r rhestr yn llawn syniadau syml ac ymarferol ar gyfer nodi’r diwrnod.

Lawrlwytho Awgrymiadau anhygoel ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Chwarae

 

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors