Cym | Eng

Newyddion

Ymgynghoriad: Mynediad plant a phobl ifanc anabl at ofal plant ac addysg

Date

17.05.2023

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd yn cynnal ymchwiliad i fynediad plant a phobl ifanc anabl at ofal plant ac addysg. Bydd yn archwilio i ba raddau y mae darparwyr gofal plant, ysgolion ac awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Hoffai’r Pwyllgor ddeall sut y gall plant a phobl ifanc sy’n niwrowahanol, neu sydd ag anableddau corfforol, anableddau synhwyraidd neu anableddau dysgu gael mynediad at bob agwedd o ddarpariaeth addysg a gofal plant. Mae’r meysydd ffocws yn cynnwys:

  • y graddau o fynediad i ddarpariaeth a/neu waharddiad o’r ddarpariaeth
  • materion gwahaniaethu uniongyrchol neu anuniongyrchol
  • effaith unrhyw ddiffyg mynediad neu fynediad cyfyngedig i ddarpariaeth
  • y rhwystrau sy’n atal darparwyr rhag gynnig darpariaeth hygyrch
  • lefel yr ymgynghori, gwybodaeth a chymorth i blant anabl a niwroamrywiol a’u teuluoedd am y dewisiadau sydd ar gael iddynt
  • a oes dewis cyfartal a digonol o ddarpariaeth.

Mae’r ddogfen ymgynghori a’r dogfennau atodol yn esbonio sut y gall pobl rannu eu barn neu awgrymu syniadau ar gyfer ffyrdd eraill o rannu eu barn.

Dyddiad cau ar gyfer ymateb: 29 Medi 2023.

Rhagor o wybodaeth

 

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors