Archwiliwch
Mae ceisiadau ac enwebiadau nawr ar agor ar gyfer Gwobrau 2024 – gwobrau a gynhelir gan Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae’r Gwobrau yn wobrau sy’n cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu gwaith nodedig ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
Mae chwe chategori gwobrau – tri ar gyfer grwpiau, timau a sefydliadau, a thri ar gyfer gweithwyr unigol. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn croesawu ceisiadau ar gyfer y categorïau grŵp, yn ogystal ag enwebiadau ar gyfer y gwobrau i weithwyr.
Hoffai Chwarae Cymru weld pobl sy’n hyrwyddo chwarae neu sy’n defnyddio dull gwaith chwarae fel rhan o’u gwaith gyda phlant a phobl ifanc yn cael eu cydnabod yng Ngwobrau 2024.
Y categorïau ar gyfer grwpiau, timau a sefydliadau yw:
- Adeiladu dyfodol disglair i blant a theuluoedd
- Gofalu am a gwella llesiant y gweithlu
- Gweithio mewn partneriaeth.
Y categorïau ar gyfer gweithwyr gofal unigol yw:
- Gwobr arweinyddiaeth effeithiol
- Gwobr Gofalwn Cymru
- Gweithio yn unol ag egwyddorion ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau .
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 3 Tachwedd 2023