Cym | Eng

Newyddion

Gwobrau 2024 Gofal Cymdeithasol Cymru

Date

04.10.2023

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae ceisiadau ac enwebiadau nawr ar agor ar gyfer Gwobrau 2024 – gwobrau a gynhelir gan Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae’r Gwobrau yn wobrau sy’n cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu gwaith nodedig ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

Mae chwe chategori gwobrau – tri ar gyfer grwpiau, timau a sefydliadau, a thri ar gyfer gweithwyr unigol. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn croesawu ceisiadau ar gyfer y categorïau grŵp, yn ogystal ag enwebiadau ar gyfer y gwobrau i weithwyr.

Hoffai Chwarae Cymru weld pobl sy’n hyrwyddo chwarae neu sy’n defnyddio dull gwaith chwarae fel rhan o’u gwaith gyda phlant a phobl ifanc yn cael eu cydnabod yng Ngwobrau 2024.

Y categorïau ar gyfer grwpiau, timau a sefydliadau yw:

  • Adeiladu dyfodol disglair i blant a theuluoedd
  • Gofalu am a gwella llesiant y gweithlu
  • Gweithio mewn partneriaeth.

Y categorïau ar gyfer gweithwyr gofal unigol yw:

  • Gwobr arweinyddiaeth effeithiol
  • Gwobr Gofalwn Cymru
  • Gweithio yn unol ag egwyddorion ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau .

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 3 Tachwedd 2023

Rhagor o wybodaeth

 

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors