Cym | Eng

Newyddion

Senedd Ieuenctid Cymru yn pleidleisio ar flaenoriaethau

Date

24.02.2022

Category

Newyddion

Archwiliwch

Iechyd meddwl a lles fydd un o dri ffocws ymdrechion Senedd Ieuenctid Cymru dros y ddwy flynedd nesaf. Pleidleisiodd yr aelodau, sydd i gyd yn 12 i 18 mlwydd oed, i ganolbwyntio ar:

  • Ein Hiechyd Meddwl a Lles
  • Hinsawdd a’r Amgylchedd
  • Addysg a’r Cwricwlwm Ysgol.

Wrth i’r Senedd ddadlau am y testunau i flaenoriaethu, roeddent hefyd yn ystyried canlyniad arolwg barn miloedd o bobl ifanc a chafodd dweud eu dweud ar ba bynciau roedden nhw’n meddwl oedd bwysicaf.

Bydd yr Aelodau nawr yn mynd ati i gynnal sesiynau grŵp i drafod eu blaenoriaethau ac i ymgynghori gyda phobl ifanc yn eu hetholaethau a gyda mudiadau partner y Senedd Ieuenctid dros y misoedd nesaf.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors