Polisi chwarae yn rhyngwladol
Mae’r hawl i chwarae’n cael ei dderbyn yn fyd- eang a chaiff ei amlinellu yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Mae’r confensiwn yn rhestru’r 42 o hawliau sydd gan blant ac arddegwyr (dan 18 oed).
Mae Erthygl 31 y confensiwn yn datgan: ‘Mae gan bob plentyn yr hawl i orffwys a hamdden, i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwarae ac adloniadol sy’n briodol i oedran y plentyn ac i gymryd rhan mewn bywyd diwylliannol a’r celfyddydau hebunrhyw rwystr.’
Mae’r Cenhedloedd Unedig yn ystyried bod chwarae’n hynod o bwysig ac, o’r herwydd, mabwysiadodd Sylw Cyffredinol rhif 17 ar Erthygl 31 o CCUHP. Mae Sylw Cyffredinol rhif 17 yn diffinio chwarae: ‘fel ymddygiad, gweithgaredd neu broses gaiff ei sbarduno, ei rheoli a’i strwythuro gan blant. Bydd chwarae’n digwydd pryd bynnag a ble bynnag y bydd cyfle’n codi.’ Mae hefyd yn ddefnyddiol iawn yn rhestru nodweddion allweddol chwarae: hwyl, ansicrwydd, her, hyblygrwydd a bod yn anghynhyrchiol.
Amcanion Sylw Cyffredinol rhif 17 yw:
- cyfoethogidealltwriaeth am bwysigrwydd Erthygl 31, er lles a datblygiadplant, ac er mwyn cyflawni hawliau eraill a geir yn y
- egluro’rdarpariaethau a’r oblygiadau sy’n gysylltiedig ag Erthygl
- darparuarweiniad ar y mesurau deddfwriaethol, barnwrol, gweinyddol, cymdeithasol ac addysgol sy’n angenrheidiol er mwyn i Erthygl 31 gaelei gweithredu er mwyn pob plentyn yn ddiwahân.
Mae Chwarae Cymru’n aelod gweithgar o’r International Play Association (IPA). Mae hwn yn sefydliad anllywodraethol rhyngwladol a sefydlwyd yn 1961 i amddiffyn, gwarchod a hyrwyddo hawl plant i chwarae fel hawl dynol sylfaenol.
Mae gan yr IPA aelodaeth eang ac amrywiol gyda changhennau gweithredol ledled y byd. Mae canghennau’r IPA yn sail ar gyfer rhwydwaith chwarae byd-eang ac maent yn cefnogi rhaglenni gwaith a gweithgarwch rhyngwladol yr IPA. Mae Chwarae Cymru yn gweithredu fel ysgrifenyddiaeth ar gyfer IPA Cymru Wales, a sefydlwyd fel cangen ar ddiwedd 2022.
Mae gwaith, gwerthoedd ac egwyddorion IPA Cymru Wales yn cael eu cynnal gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) ac yn benodol Erthygl 31.
Ymunwch ag IPA Cymru Wales i gefnogi mudiad rhyngwladol sy’n gweithio i warchod, diogelu a hybu hawl y plentyn i chwarae. Mae aelodaeth IPA Cymru Wales ar gael i bobl sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru. Cynigir amrywiol lefelau aelodaeth ar gyfer unigolion a sefydliadau.