Archwiliwch
Rydym wedi cyhoeddi ein hymateb drafft i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gofrestru proffesiynol y gweithlu gwaith chwarae a gofal plant.
Mae’r ymgynghoriad yn gofyn am farn y rhai sy’n rheoli neu’n gweithio mewn lleoliadau gofal plant a gwaith chwarae ledled Cymru. Mae’r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar:
- a ddylai fod cofrestriad gorfodol ar gyfer gweithwyr chwarae ai peidio
- pwy ddylai gael ei gofrestru
- graddfeydd amser.
Mae Chwarae Cymru yn annog gweithwyr chwarae, rheolwyr a’r rhai sy’n gweithio yn y sector gwaith chwarae i ymateb i’r ymgynghoriad pwysig hwn. Efallai y byddwch yn dymuno defnyddio ein hymateb i ffurfio eich ymateb eich hun.
Dyddiad cau yr ymgynghoriad: 7 Mawrth 2024
Lawrlwytho ymateb Chwarae Cymru