Cym | Eng

Newyddion

Ymateb i Reoliadau Drafft Gwarchod Plant a Gofal Dydd

Date

29.09.2022

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan AS wedi ymateb mewn datganiad ysgrifenedig i’r ymgynghoriad ar Reoliadau Drafft Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2022 a gynhaliwyd rhwng Mawrth a Mehefin 2022.

Mae’r rheoliadau yn esbonio pwy sy’n anghymwys i gofrestru fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd a’u nod yw atal pobl anaddas rhag darparu gwasanaethau gofal plant yng Nghymru.

Dywed Julie Morgan:

‘Roedd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn cefnogi cynnwys troseddau ychwanegol ac elfennau o’r gyfraith a ddiweddarwyd ers i reoliadau 2010 gael eu gwneud.

Yn gyffredinol croesawyd y newidiadau polisi a awgrymwyd fel rhan o’r ymgynghoriad hefyd.

Mae’r newidiadau hyn yn gam cadarnhaol ymlaen, gan ganiatáu i fwy o bobl gofrestru i ddarparu gwasanaethau gofal plant yng Nghymru.

Rwy’n bwriadu gosod y rheoliadau diwygiedig hyn yn yr hydref. Byddaf hefyd yn darparu canllawiau i ategu rheoliadau 2022 er mwyn ei gwneud yn glir beth yw’r gofynion rheoleiddiol y mae angen eu bodloni i gydymffurfio â’r gyfraith.’

More information

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors