Archwiliwch
Rydym wedi cyhoeddi rhestr ddarllen o adnoddau a argymhellir ar gyfer meddwl am chwarae yn yr ysgol.
Mae Rhestr ddarllen ar gyfer athrawon – Cefnogi chwarae plant mewn ysgolion yn cydnabod pwysigrwydd i blant gael cyfleoedd i fod yn chwareus yn yr ysgol y tu allan i amserau chwarae. Mae’n nodi y dylai gweithgareddau chwareus fod yn ganolog i ddysgu – i blant hŷn yn ogystal â phlant yn y blynyddoedd cynnar.
Mae’r rhestr ddarllen yn fan cychwyn ar gyfer myfyrio a Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer y rheini sydd â diddordeb gwella cyfleoedd plant i chwarae yn yr ysgol.