Cym | Eng

Newyddion

Cofrestru`r gweithlu gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yng Nghymru – adolygiad annibynnol

Date

08.08.2022

Category

Newyddion

Archwiliwch

Cyhoeddwyd adolygiad annibynnol o’r gweithlu gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar (CPEY) ar ran Llywodraeth Cymru yng Ngorffennaf 2022.

Prif nod yr adolygiad oedd rhoi barn annibynnol i lywio camau gweithredu a chamau nesaf Llywodraeth Cymru i gofrestru’r gweithlu CPEY yn broffesiynol.

Mae tair thema allweddol i’r canfyddiadau:

  1. diffinio’r gweithlu a phwy ddylai gael eu cynnwys mewn cofrestrfa
  2. elfennau ymarferol cofrestrfa
  3. cymwysterau a datblygiad proffesiynol parhaus.

Cafodd yr adolygiad ei gynnal gan Government Social Research (GSR). Mae’n cynnig argymhellion a nodir mewn tri cham i Lywodraeth Cymru eu hystyried wrth fwrw ymlaen â chofrestriad proffesiynol y gweithlu CPEY yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors