Archwiliwch
Bydd Diwrnod Cenedlaethol y Plant y DU 2024 (NCDUK2024) yn cael ei gynnal ar 12 Mai. Mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn dathlu pwysigrwydd plentyndod iach ac amdiffyn hawliau a rhyddid plant i sicrhau y gallant dyfu’n oedolion hapus ac iach.
Bydd NCDUK2024 yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o’r gwaith y mae mudiadau’n ei wneud i ddiogelu lles plant a theuluoedd. Bydd hefyd yn amlygu’r ffaith bod pob plentyn yn rhannu’r un blaned – a bod plant eisiau i wleidyddion gymryd camau cryfach.
Mae NCDUK2024 yn cael ei drefnu gan y Mudiad Achub Plentyndod, sy’n annog pob cymuned i gymryd rhan wrth ddathlu’r diwrnod.