Archwiliwch
Mae plant eisiau mwy o le ac amser i chwarae gyda’u ffrindiau yn dilyn y pandemig COVID-19, yn ôl astudiaeth newydd a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2022.
Arweiniwyd yr astudiaeth o fwy nag 20,000 o blant rhwng 8 ac 11 oed yng Nghymru gan ymchwilwyr gwyddor data poblogaeth ym Mhrifysgol Abertawe mewn partneriaeth â Chwarae Cymru. Mae’r canfyddiadau’n seiliedig ar newidiadau mewn ymatebion i gwestiynau am gyfleoedd chwarae a gasglwyd drwy arolwg Rhwydwaith Ysgolion Cynradd HAPPEN o 2016 a 2021.
Y prif argymhelliadau gan blant wrth i ni ddod allan o COVID-19 oedd yr hoffent gael:
- mwy o le i chwarae (y tu allan i gartrefi, gan gynnwys gerddi)
- mwy o amser gyda ffrindiau ac amser wedi’i glustnodi i chwarae gyda ffrindiau yn yr ysgol a gartref
- mannau wedi’u clustnodi ar gyfer chwarae, gan gynnwys buddsoddiad mewn gwaith cynnal a chadw, a diogelwch – yn cynnwys cyfyngu ar effaith traffig
- hwyluso cyfleoedd i blant gymdeithasu â’u ffrindiau a’u teulu lle bynnag y bo’n bosib.
Mae’r canfyddiadau hyn yn amlygu’r angen i wrando ar blant ac ymgynghori â nhw er mwyn nodi dymuniadau ac anghenion penodol o chwarae.
Dywedodd Cyfarwyddwraig Cynorthwyol Chwarae Cymru, Marianne Mannello:
‘Rydym yn croesawu’r ymchwil hon sy’n rhoi mewnwelediad gwerthfawr i ni o’r hyn sy’n bwysig i blant a’r hyn y mae angen i ni ei wneud er mwyn eu helpu i ail-gydio mewn gweithgareddau corfforol i helpu eu hiechyd a’u lles.
‘Mae’n hollbwysig ein bod ni’n gwrando ar farn plant ac yn cael gwared ar y rhwystrau i chwarae. Bydd hyn yn eu helpu i gefnogi eu lles, ac i fwynhau plentyndod hapus ac iach.’