Archwiliwch
Mae’r Matthew Good Foundation yn cynnig grantiau o hyd at £5,000 i elusennau lleol, grwpiau gwirfoddol a mentrau cymdeithasol yn y DU.
Bob tri mis, bydd y sefydliad yn rhannu £15,000 rhwng pum grŵp ar y rhestr fer sy’n cael effaith gadarnhaol ar gymunedau, pobl neu’r amgylchedd. Bydd pleidlais yn cael ei chynnal gan weithwyr y sefydliad i benderfynu sut y bydd y grant yn cael ei rannu ymhlith y grwpiau. Cyhoeddir gwobrau fel a ganlyn:
- Safle cyntaf – £5,000
- Ail safle – £3,500
- Trydydd – £2,500
- Pedwerydd a phumed safle – £2,000 yr un.
I fod yn gymwys, nid oes angen i grwpiau fod wedi’u cofrestru ond rhaid iddynt fod wedi derbyn incwm o lai na £50,000 yn y 12 mis diwethaf.
Croesewir ceisiadau drwy gydol y flwyddyn a chânt eu hystyried ym mha bynnag yw’r rownd nesaf o ariannu. Y rowndiau ariannu a dyddiadau gwobrwyo yw:
16 Mawrth i 15 Mehefin – gwobrwyo ym mis Awst
16 Mehefin i 15 Medi – gwobrwyo ym mis Tachwedd
16 Medi i 15 Rhagfyr – gwobrwyo ym mis Chwefror
16 Rhagfyr i 15 Mawrth – gwobrwyo ym mis Mai.