Cysylltwch â ni
Cym | Eng

Newyddion

Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae – adroddiad wedi`i gyhoeddi

Date

03.02.2023

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Adroddiad grŵp llywio yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae. Mae’r cyhoeddiad yn dilyn adolygiad drylwyr a chydweithredol o waith Llywodraeth Cymru mewn perthynas â pholisi chwarae. Cynhaliwyd yr adolygiad rhwng 2019 a 2022.

Mae adroddiad y grŵp llywio yn cyflwyno 15 o argymhellion allweddol mewn perthynas â chwe thema a nodwyd yn yr adolygiad. Mae’n pwysleisio bod angen gweithredu’r argymhellion hyn ar frys er mwyn gwella cyfleoedd ar gyfer chwarae plant yng Nghymru.

Caiff yr adroddiad ei hysbysu gan bapur cefndir sy’n darparu llenyddiaeth allweddol, adroddiadau ar effaith COVID-19 a’r rhesymeg ar gyfer yr argymhellion.

Dan arweiniad Tîm Polisi Chwarae Llywodraeth Cymru, roedd y grŵp llywio traws-broffesiynol yn cynnwys arbenigwyr chwarae a gwaith chwarae, gyda swyddogion polisi o bob rhan o Lywodraeth Cymru a chynghorwyr academaidd annibynnol i gefnogi’r adolygiad.

Wrth groesawu’r adroddiad mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan AS:

‘Nod yr adolygiad yw ystyried ein gweledigaeth a’n hegwyddorion o ran chwarae, a rhoi sylw i’r ffordd orau o hyrwyddo polisi chwarae yng nghyd-destun newidiadau a wnaed ers yr adolygiad diwethaf yn 2002…

‘Mae argymhellion yr adolygiad yn eang eu cwmpas, a bydd rhai yn galw am waith traws-bolisi gan y llywodraeth a pharhau i gydweithio gyda’r sector. Byddwn yn mynd ati, felly, i ymchwilio ymhellach i’r argymhellion a’r cerrig milltir a awgrymwyd, a fydd yn helpu i lywio’r camau y mae angen eu cymryd. Rwy’n bwriadu ymateb yn ffurfiol i adroddiad y Grŵp Llywio â chynllun gweithredu manwl yn nes ymlaen eleni.’

Rhoddodd Llywodraeth Cymru y dasg i Chwarae Cymru o gydlynu ysgrifennu’r adroddiad ar ran y grŵp llywio. Meddai Cyfarwyddwr Chwarae Cymru, Mike Greenaway:

‘Fe wnaethom groesawu penderfyniad y dirprwy weinidog i gomisiynu’r adolygiad gweinidogol yn 2019. Mae’n dangos y gwerth a’r pwysigrwydd parhaol y mae Llywodraeth Cymru’n eu gosod ar gyfleoedd i chwarae ym mywydau plant a chydnabyddiaeth o’i rôl wrth gyfrannu at arwain ar newid.

‘Mae’r adolygiad hwn yn egluro sut y gallwn wella cyfleoedd ar gyfer chwarae’n strategol gydag argymhellion ar gyfer y camau nesaf ar y daith i’n gwneud yn wlad wirioneddol chwaraegyfeillgar. Edrychwn ymlaen, yn ddisgwylgar, am ymateb y dirprwy weinidog.’

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors