Cym | Eng

Newyddion

Ymgynghoriad: Cofrestru’n broffesiynol y gweithlu gwaith chwarae a gofal plant

Date

05.12.2023

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan AS wedi cyhoeddi lansio ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gofrestru’r gweithlu gofal plant a gwaith chwarae yn broffesiynol.

Mae’r ymgynghoriad yn gofyn am farn y rhai sy’n rheoli neu’n gweithio mewn lleoliadau gofal plant a gwaith chwarae ledled Cymru. Mae’n cynnwys cwestiynau ynghylch a ddylai’r sector gofal plant a gwaith chwarae fod â chofrestr o’r gweithlu ac os felly, pwy ddylai gael ei gynnwys yn y gofrestr honno.

Mae Chwarae Cymru yn awyddus i gefnogi gweithwyr chwarae a rheolwyr i ymateb i’r ymgynghoriad hwn. Mae’n hollbwysig bod y rhai sy’n gweithio yn y sector gwaith chwarae yn rhannu eu barn. Ar hyn o bryd mae’r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar:

  • a ddylai fod cofrestriad gorfodol ar gyfer gweithwyr chwarae ai peidio
  • pwy ddylai gael ei gofrestru
  • graddfeydd amser.

Cadwch lygad am gyfleoedd i ymuno â grwpiau ffocws yn y misoedd nesaf i drafod ymhellach.

Dyddiad cau ar gyfer ymateb: 7 Mawrth 2024

Mwy o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors