Archwiliwch
Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan AS wedi cyhoeddi lansio ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gofrestru’r gweithlu gofal plant a gwaith chwarae yn broffesiynol.
Mae’r ymgynghoriad yn gofyn am farn y rhai sy’n rheoli neu’n gweithio mewn lleoliadau gofal plant a gwaith chwarae ledled Cymru. Mae’n cynnwys cwestiynau ynghylch a ddylai’r sector gofal plant a gwaith chwarae fod â chofrestr o’r gweithlu ac os felly, pwy ddylai gael ei gynnwys yn y gofrestr honno.
Mae Chwarae Cymru yn awyddus i gefnogi gweithwyr chwarae a rheolwyr i ymateb i’r ymgynghoriad hwn. Mae’n hollbwysig bod y rhai sy’n gweithio yn y sector gwaith chwarae yn rhannu eu barn. Ar hyn o bryd mae’r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar:
- a ddylai fod cofrestriad gorfodol ar gyfer gweithwyr chwarae ai peidio
- pwy ddylai gael ei gofrestru
- graddfeydd amser.
Cadwch lygad am gyfleoedd i ymuno â grwpiau ffocws yn y misoedd nesaf i drafod ymhellach.
Dyddiad cau ar gyfer ymateb: 7 Mawrth 2024