Archwiliwch
Mae Astudiaeth Gweithlu Chwarae Cymru 2021, sydd newydd ei gyhoeddi, yn cynnig dealltwriaeth o’r gweithlu chwarae yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar dri maes sy’n gorgyffwrdd: strategol, cysylltiadau rhwng y strategol ac ymarfer a’r gweithlu chwarae ei hun. Mae’r astudiaeth hefyd yn anelu i gyfrannu at Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae 2019-21 Llywodraeth Cymru.
Comisiynodd Chwarae Cymru Dr Pete King a Dr Justine Howard o Brifysgol Abertawe i gynnal yr astudiaeth chwe mis rhwng mis Mehefin a mis Rhagfyr 2021. Casglwyd data meintiol ac ansoddol trwy:
- arolwg ar-lein cenedlaethol
- cyfweliadau gyda thri sefydliad cenedlaethol blaenllaw sy’n ymwneud â chwarae a gwaith chwarae yng Nghymru
- cyfweliadau gyda swyddogion arweiniol Asesu Digonolrwydd Chwarae ar draws y 22 awdurdod lleol
- grŵp ffocws
- cyfweliadau gyda’r gweithlu chwarae.
Yn ogystal â throsolwg o’r methodoleg, mae’r crynodeb gweithredol yn cynnwys rhestr o 16 o ganfyddiadau, a dandansoddiad o’r canlyniadau gan gynnwys cymariaethau rhwng canfyddiadau 2021 a’r rheini o’r astudiaeth gweithlu diwethaf yn 2008.
Gellir crynhoi’r canfyddiadau fel a ganlyn:
‘Mae’r sefyllfa gyfredol yn Astudiaeth Gweithlu Chwarae Cymru 2021 yn dynodi bod tebygrwydd rhwng gweithwyr chwarae, gweithwyr gofal plant a’r blynyddoedd cynnar a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes chwarae, er enghraifft rhyw. Fodd bynnag, mae rhywfaint o wahaniaethau amlwyg hefyd o ran oedran, cyflogaeth, cyflog, a chymwysterau rhwng y tri grŵp.’
Canolbwyntiodd yr astudiaeth ar y bobl hynny sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc. Cynhyrchodd yr Arolwg Gweithlu Chwarae Cymru 384 o ymatebion – gan weithwyr chwarae, gweithwyr gofal plant a blynyddoedd cynnar a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes chwarae, er enghraifft pobl sy’n defnyddio chwarae mewn ysbytai.
Os hoffech chi gopi o’r adroddiad ymchwil llawn, ebostiwch ni.