Cym | Eng

Newyddion

Astudiaeth Gweithlu Chwarae Cymru 2021

Date

24.08.2022

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae Astudiaeth Gweithlu Chwarae Cymru 2021, sydd newydd ei gyhoeddi, yn cynnig dealltwriaeth o’r gweithlu chwarae yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar dri maes sy’n gorgyffwrdd: strategol, cysylltiadau rhwng y strategol ac ymarfer a’r gweithlu chwarae ei hun. Mae’r astudiaeth hefyd yn anelu i gyfrannu at Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae 2019-21 Llywodraeth Cymru.

Comisiynodd Chwarae Cymru Dr Pete King a Dr Justine Howard o Brifysgol Abertawe i gynnal yr astudiaeth chwe mis rhwng mis Mehefin a mis Rhagfyr 2021. Casglwyd data meintiol ac ansoddol trwy:

  • arolwg ar-lein cenedlaethol
  • cyfweliadau gyda thri sefydliad cenedlaethol blaenllaw sy’n ymwneud â chwarae a gwaith chwarae yng Nghymru
  • cyfweliadau gyda swyddogion arweiniol Asesu Digonolrwydd Chwarae ar draws y 22 awdurdod lleol
  • grŵp ffocws
  • cyfweliadau gyda’r gweithlu chwarae.

Yn ogystal â throsolwg o’r methodoleg, mae’r crynodeb gweithredol yn cynnwys rhestr o 16 o ganfyddiadau, a dandansoddiad o’r canlyniadau gan gynnwys cymariaethau rhwng canfyddiadau 2021 a’r rheini o’r astudiaeth gweithlu diwethaf yn 2008.

Gellir crynhoi’r canfyddiadau fel a ganlyn:

‘Mae’r sefyllfa gyfredol yn Astudiaeth Gweithlu Chwarae Cymru 2021 yn dynodi bod tebygrwydd rhwng gweithwyr chwarae, gweithwyr gofal plant a’r blynyddoedd cynnar a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes chwarae, er enghraifft rhyw. Fodd bynnag, mae rhywfaint o wahaniaethau amlwyg hefyd o ran oedran, cyflogaeth, cyflog, a chymwysterau rhwng y tri grŵp.’

Canolbwyntiodd yr astudiaeth ar y bobl hynny sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc. Cynhyrchodd yr Arolwg Gweithlu Chwarae Cymru 384 o ymatebion – gan weithwyr chwarae, gweithwyr gofal plant a blynyddoedd cynnar a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes chwarae, er enghraifft pobl sy’n defnyddio chwarae mewn ysbytai.

Os hoffech chi gopi o’r adroddiad ymchwil llawn, ebostiwch ni.

Lawrlwythwch y crynodeb gweithredol

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors