Archwiliwch
Mae Play Action International wedi lansio apêl i alluogi teuluoedd i roi bocsys esgidiau sy’n llawn tegannau a deunyddiau chwarae ar gyfer plant sy’n ffoi’r argyfwng yn Wcrain. Yn ychwanegol i’r tegannau, bydd bob Play Box yn cynnwys canllaw cefnogol i rieni i helpu eu plant i brosesu’r hyn y maent yn ei brofi.
Mae’r apêl yn anelu i roi oleiaf 50,000 bocs chwarae i blant oedran cynradd Wcreinaidd i’w helpu i adfer o’r gwrthdaro a’r trawna maent wedi ei ddioddef. Bydd y bocsys yn cael eu dosbarthu i blant sy’n ceisio lloches yn y DU ac yn Nwyrain Ewrop.
Dywed Play Action International:
‘O’n profiad o weithio gyda dros 250,000 o blant ffoadur, rydym yn gwybod mai chwarae yw un o’r ffyrdd gorau i blant ddechrau adfer o drawma.’