Cym | Eng

Hawl i chwarae

Hwyl ar iard yr ysgol

Pwnc

Hawl i chwarae

Dyddiad cyhoeddi

27.03.2023

Darllen yr adnodd

Hwyl ar iard yr ysgol

Awdur: staff ysgolion yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Dyddiad: Tachwedd 2022

Mae’r llyfr stori hwn ar gyfer plant ysgol gynradd a’u rhieni – yn ogystal ag athrawon a staff ysgolion. Mae hefyd yn adnodd defnyddiol i gefnogi pobl sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd.

Mae’r stori am un o rannau pwysicaf y diwrnod ysgol i lawer o blant – amser chwarae. Mae’n anelu i gefnogi plant i wneud yn siŵr bod ganddynt yr hawl i chwarae yn yr ysgol. Gyda chefnogaeth y storïwr, crëwyd y stori gan staff ysgolion sy’n gweithio a byw yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Sut alla i gael copi o Hwyl ar iard yr ysgol

Os hoffech chi dderbyn copi yn rhad ac am ddim mae’n rhaid i chi:

1.     Fod yn byw neu’n gweithio yng Nghymru

2.     Cofrestru i’n rhestr bostio

3.     Rannu eich manylion, gan gynnwys cyfeiriad postio, trwy ebost.

 

Datblygwyd mewn partneriaeth â Petra Publishing

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors