Hawl i chwarae
Hwyl ar iard yr ysgol
Pwnc
Hawl i chwarae
Dyddiad cyhoeddi
27.03.2023
Darllen yr adnodd
Awdur: staff ysgolion yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Dyddiad: Tachwedd 2022
Mae’r llyfr stori hwn ar gyfer plant ysgol gynradd a’u rhieni – yn ogystal ag athrawon a staff ysgolion. Mae hefyd yn adnodd defnyddiol i gefnogi pobl sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd.
Mae’r stori am un o rannau pwysicaf y diwrnod ysgol i lawer o blant – amser chwarae. Mae’n anelu i gefnogi plant i wneud yn siŵr bod ganddynt yr hawl i chwarae yn yr ysgol. Gyda chefnogaeth y storïwr, crëwyd y stori gan staff ysgolion sy’n gweithio a byw yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Gallwch dderbyn copi am ddim o Hwyl ar iard yr ysgol os ydych yn byw a gweithio yng Nghymru, os gwnewch:
- gofrestru i fod ar ein rhestr bostio
- e-bostio eich manylion atom, yn cynnwys eich cyfeiriad post (fel y gallwn anfon y llyfr atoch)