Cym | Eng

Gwaith Chwarae

Sicrhau ansawdd

Archwiliwch

Chwarae o Safon yw marc ansawdd gwaith chwarae newydd Chwarae Cymru.

Bwriedir i Chwarae o Safon gael ei ddefnyddio mewn lleoliadau gwaith chwarae anrheoleiddiedig, yn ogystal â lleoliadau a reoleiddir gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Mae hefyd yn berthnasol i’r bobl hynny sy’n ymwneud â gwaith chwarae mewn lleoliadau gwaith chwarae amhenodedig.

Dyfernir dau wahanol farc ansawdd gwaith chwarae, y naill yn canolbwyntio ar ymarfer a’r llall ar bolisi. Gall lleoliadau gwaith chwarae weithio tuag at un neu ddau o’r dyfarniadau hyn:

1. Chwarae o Safon – marc ansawdd ymarfer gwaith chwarae

Mae hwn yn asesu:

  • profiadau chwarae plant
  • yr amgylchedd gwaith chwarae.

Mae hwn yn addas ar gyfer lleoliadau sy’n defnyddio agwedd gwaith chwarae neu y mae eu staff wedi cwblhau hyfforddiant neu gymwysterau gwaith chwarae ac sydd am arddangos ymarfer gwaith chwarae da. Yn ogystal â lleoliadau gwaith chwarae penodedig, gall hyn gynnwys darpariaeth gwaith ieuenctid, gofal plant, addysg, chwaraeon ac iechyd hefyd.

2. Chwarae o Safon – marc ansawdd polisi gwaith chwarae

Mae hwn yn asesu:

  • polisi ac ymarfer gwaith chwarae
  • y sefydliad gwaith chwarae.

Mae hwn yn addas ar gyfer lleoliadau y mae eu prif ddiben yn cynnwys cefnogi chwarae plant gan ddefnyddio agwedd gwaith chwarae. Mae hyn yn cynnwys lleoliadau a reoleiddir ac anrheoleiddiedig sy’n diffinio eu hunain fel un ai darpariaeth beripatetig neu rodwyr chwarae, meysydd chwarae antur, gofal plant y tu allan i oriau ysgol, gwaith chwarae mynediad agored neu chwarae stryd. Mae’n canolbwyntio ar y polisïau, y gweithdrefnau a’r ethos sefydliadol sy’n cefnogi ymarfer gwaith chwarae. Er mwyn ennill y marc ansawdd hwn, bydd lleoliadau eisoes wedi derbyn y marc ansawdd ymarfer gwaith chwarae.

Mae Chwarae o Safon yn ychwanegu at ac yn disodli dau o adnoddau Chwarae Cymru:

  • Yr Hawl Cyntaf… fframwaith ar gyfer asesu ansawdd gwaith chwarae (2001)
  • Yr Hawl Cyntaf – prosesau dymunol (2002).

Dysgu mwy

Cysylltwch gyda ni i ddysgu mwy am sut y gallwch ymgeisio am farc ansawdd Chwarae o Safon, a chostau cyfredol.

Dechrau arni

Mae Chwarae o Safon yn cynnwys hunanasesiad yn ogystal ag asesiad allanol. Mae’r canllaw yn cynnwys gwybodaeth fanylach am y marc safon gwaith chwarae a gwahanol gamau’r broses. Mae’r Fframwaith hunanasesu a thystiolaeth yn ffurflen y gellir ei chwblhau i gasglu ynghyd tystiolaeth ar gyfer asesiad allanol.

Ansawdd gwaith chwarae

Sicrwydd ansawdd gwaith chwarae yw’r broses o edrych yn fanwl ar ein hymarfer gwaith chwarae er mwyn gwella ansawdd profiadau chwarae plant yn yr ystod eang o leoliadau ble bydd gwaith chwarae’n digwydd. Mae’n ehangu ar gymwysterau, hyfforddiant, profiad a dealltwriaeth gweithwyr chwarae o’r Egwyddorion Gwaith Chwarae. Mae’n ein helpu i edrych yn feirniadol ar elfennau penodol o’n gwaith (dangosyddion ansawdd) a sut y byddwn yn sicrhau bod yr elfennau hyn yn cael eu cyflawni mewn egwyddor ac yn ymarferol.

Mae Chwarae o Safon yn ffurfioli’r broses hon fel y gallwn dystio, i’n hunain ac i bobl eraill, bod ein hymarfer yn cydweddu gyda disgwyliadau ansawdd ein sector. Mae’n fuddiol yn ei rinwedd ei hun ar gyfer ein staff, ein lleoliad ac, wrth gwrs, y plant ond mae hefyd yn arddangos i rieni, cyllidwyr, ac i gyrff cyfreithiol a rheoleiddiol bod ein lleoliad yn un o safon.

Cefndir

Gweithiodd Chwarae Cymru gyda’r sector gwaith chwarae i ddatblygu Chwarae o Safon. Mae grŵp cyfeirio arbenigol wedi cefnogi datblygu’r marc ansawdd. Roedd aelodau’r grŵp hwn yn cynnwys:

  • Arolygiaeth Gofal Cymru
  • Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs
  • Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru
  • Blynyddoedd Cynnar Cymru
  • Arbenigwyr chwarae
  • Cyflogwyr gwaith chwarae o leoliadau blynyddoedd cynnar, gwaith chwarae mynediad agored a gofal plant y tu allan i oriau ysgol
  • Hyfforddwyr gwaith chwarae
  • Gofal Cymdeithasol Cymru
  • Llywodraeth Cymru.

Llyfrgell Cyhoeddiadau

Mae ein casgliad o gyhoeddiadau’n cynyddu ymwybyddiaeth am bwysigrwydd chwarae ar gyfer plant a phlant yn eu harddegau. Mae’r adnoddau hyn hefyd yn cynnig canllawiau arfer da ar amrywiaeth o bynciau am ddarparu cyfleoedd i chwarae.

Learn more
Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors