Digwyddiad Chwarae Cymru
Chwarae a lles: o ymchwil i ymarfer
Dyddiad
21/11/2024
Amser
9:00am
Pris (aelod)
£55
Pris (ddim yn aelod)
£100
Trefnydd
Chwarae Cymru
Lleoliad
Gerddi Sophia, Caerdydd
Mae cynhadledd genedlaethol Chwarae Cymru’n dychwelyd yr hydref hwn – mae archebion nawr ar agor.
Ymunwch â ni i ddathlu lansio ein cyhoeddiad diweddaraf, Chwarae a lles. Bydd y gynhadledd hon yn gyfle pwysig i ddarganfod mwy am yr adolygiad o ymchwil diweddar i chwarae plant, polisi cymdeithasol ac ymarfer, gyda ffocws ar Gymru. Y canlyniad yw cyhoeddiad arloesol a chyffrous a fydd yn dylanwadu ar sut yr ydym yn cynllunio ac yn darparu ar gyfer chwarae plant.
Mae’r adolygiad llenyddiaeth yn archwilio’r cysylltiadau rhwng digonolrwydd cyfleoedd chwarae a lles plant. Mae’n tynnu’n bennaf ar ymchwil academaidd, ar draws ystod o ddisgyblaethau, ond mae hefyd yn tynnu ar lenyddiaeth broffesiynol, eiriolaeth ac ymarferydd ble y bo’n briodol. Mae’r adolygiad yn canolbwyntio ar rôl chwarae mewn lles plant, patrymau chwarae plant, a chefnogaeth oedolion i chwarae plant.
Bydd y gynhadledd yn rhoi cyfle i gynadleddwyr:
- Glywed gan awduron yr adroddiad Chwarae a lles
- Cymryd rhan mewn trafodaeth fywiog am yr ymchwil a sut y mae’n effeithio ar eich gwaith
- Cyfrannu at weithdai astudiaethau achos sy’n ymwneud â themâu’r ymchwil, Adolygiad Gweinidogol o Chwarae a digonolrwydd cyfleoedd chwarae
- Ystyried sut y gall tystiolaeth o’r adolygiad llenyddiaeth ddylanwadu ar eich gwaith gyda phlant.
Nodyn: i gael y gorau o’r gynhadledd hon, rydym ynargymell eich bod yn darllen crynodeb Chwarae a lles cyn mynychu’r digwyddiad.
Pwy ddylai fynychu?
Anelir y gynhadledd at: swyddogion digonolrwydd chwarae, ymarferwyr gofal plant a gwaith chwarae, aelodau etholedig mewn llywodraeth leol, a’r rhai sy’n ymwneud ag iechyd, addysg, teithio llesol, cynllunio tref a chymuned.
Prif siaradwyr
Ymhlith y siaradwyr mae:
- Dr Wendy Russell
- Ben Tawil, Ludiology
- Mike Barclay, Ludiology
- Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru
Lawrlwytho poster y gynhadledd
Prisiau cynadleddwyr
Eleni rydym yn gallu cynnig pris cyw cynnar i gefnogwyr yng Nghymru. Archebwch eich lle heddiw i dderbyn y pris gorau:
- Cefnogwyr yng Nghymru tan 30 Medi: £55
- Cefnogwyr yng Nghymru o 1 Hydref ymlaen: £75
- Cynadleddwyr o’r tu allan i Gymru: £100
Archebu lle
Cwblhewch y ffurflen i archebu eich lle: