Chwarae
Arddegwyr a chwarae
Mae plant yn chwareus beth bynnag fo’u hoed, ac mae plant hŷn – yn cynnwys arddegwyr – angen cyfleoedd i chwarae a chwrdd â’u ffrindiau. Yn union fel plant iau, mae plant hŷn angen amser, lle a rhyddid i chwarae.
Mae chwarae’n dueddol o dderbyn llawer mwy o sylw yn ystod blynyddoedd cynnar bywydau plant nac yn hwyrach yn eu plentyndod. Mae hyn yn arbennig o wir am yr effaith gaiff chwarae ar ddatblygiad plant. Gan fod chwarae’n cael ei gysylltu, yn bennaf, gyda phlant ifanc iawn, mae ei werth i blant hŷn, o bosibl, yn cael ei anwybyddu a’i ddiystyru.
Mae gwaith ymchwil yn dangos bod yr ymennydd dynol yn dal i ddatblygu yn ystod glasoed. Mae’r rhan o’r ymennydd sy’n rheoli gweithrediadau penodol wedi datblygu mwy mewn arddegwyr nac mewn plant iau. Mae’r gweithrediadau hyn yn cynnwys rhesymu, datrys problemau, dirnadaeth, rheoli mympwyon, creadigedd a dyfalbarhad.
Mae gan blant hŷn botensial mawr ar gyfer dysgu a chreadigedd. Gan fod ardaloedd gwobrwyo eu hymennydd yn arbennig o fywiog, maen nhw’n chwilio am brofiadau a gwefrau newydd a gall eu hymddygiad fod yn fympwyol. Gall chwarae helpu i bontio’r ddwy agwedd yma o ddatblygiad yr ymennydd.
Gall y pwyslais ar werth chwarae i blant iau beri i oedolion feddwl bod plant yn tyfu allan o chwarae tua 10 oed. Fodd bynnag, o wrando ar arddegwyr, mae’n amlwg nad yw hyn yn wir iddyn nhw.
Mae plant hŷn yn dweud wrthym eu bod, yn benodol, yn gwerthfawrogi cael mannau ble gallant chwarae a chwrdd â’i gilydd. Ond maen nhw eisiau mwy o’r gofodau hyn, ac maen nhw eisiau gallu mynd iddyn nhw’n ddiogel. Bydd arddegwyr yn dweud eu bod yn teimlo’n aml eu bod yn cael eu barnu pan fyddan nhw’n chwarae ac yn cwrdd â’i gilydd yn eu cymdogaethau, gydag oedolion yn cymryd eu bod ar berwyl drwg.