Cym | Eng

Chwarae

Chwarae a chwrdd â ffrindiau y tu allan

Archwiliwch

Mae plant o bob oed yn dweud yn gyson bod chwarae a chwrdd â’u ffrindiau’n bwysig iddyn nhw. tu allan yw eu hoff fan chwarae o hyd.

Mae darparu cyfleoedd i blant ac arddegwyr i chwarae’r tu allan a chwrdd â’u ffrindiaun hanfodol ar gyfer eu hiechyd a’u lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol. Mae hefyd yn effeithio ar eu hapusrwydd ac yn eu helpu i ddatblygu sgiliau cymdeithasol.

Mae cael rhyddid i chwarae’r tu allan ac i gwrdd â’u ffrindiau yn eu cymdogaethau yn helpu plant i ddatblygu eu hyder a’u hannibyniaeth. Mae’n eu helpu hefyd i ddod i adnabod ac i ddeall y byd o’u hamgylch. Mae’r mannau ble maent yn chwarae ac yn cwrdd â’i gilydd yn cynnwys meysydd chwarae, parciau, y tu allan i siopau, a mannau cyhoeddus eraill.

 

Rhwystrau i chwarae’r tu allan

I rai plant, mae cyfleoedd i chwarae a chwrdd â ffrindiau y tu allan a’r tu hwnt i’w gerddi’n brin. Mae nifer o dueddiadau a materion cyffredin yn effeithio ar allu plant i chware’r tu allan yn eu cymdogaethau, megis:

  • newidiadau mewn cymunedau yn cynnwys cynnydd yn y defnydd o geir, mwy o draffig (yn symud ac wedi parcio), diffyg ffrindiau’n byw gerllaw, anhawster mynd i leoedd i chwarae a phatrymau gweithio newidiol
  • cyfyngiadau a osodir gan rieni oherwydd ofnau ynghylch diogelwch, traffig a ‘pherygl dieithriaid’
  • anoddefgarwch cynyddol tuag at blant yn chwarae a chwrdd â’i gilydd y tu allan, gyda phlant yn cael eu hystyried fel ‘bod allan o le’ mewn mannau cyhoeddus.


Mae’r diffyg cyfleoedd i chwarae’r tu allan yn effeithio ar iechyd a lles plant ac ar eu dyfeisgarwch a’u gwytnwch.

Cefnogi plant fel y gallant chwarae a chwrdd â’i gilydd y tu allan

Mae Chwarae Cymru’n galw am well defnydd o fannau cyhoeddus er enghraifft strydoedd fel y gall plant ac arddegwyr archwilio a chwarae yn eu cymdogaethau.

Pan fo gan blant fynediad i fannau ble gallant chwarae a chwrdd â’u ffrindiau, mae cymunedau’n tyfu’n fwy goddefgar o chwarae. Gall oedolion cefnogol a gofalgar sy’n deall ac sy’n oddefgar tuag at chwarae atgyfnerthu profiadau plant o chwarae a’u datblygiad.

Strydoedd chwarae

‘Strydoedd chwarae’ (a elwir hefyd yn chwarae stryd) yw’r enw a roddir i fath o sesiwn chwarae ble gall plant chwarae’n ddiogel y tu allan i’w cartrefi. Mae’r syniad syml hwn yn rhoi lle a chaniatâd i blant chwarae yn stryd.

Mewn strydoedd chwarae:

  • mae ffordd breswyl yn cael ei ‘chau’ i draffig er mwyn sicrhau diogelwch a rhyddid
  • mae stiwardiaid gwirfoddol ar bob pwynt ble mae’r ffordd ar gau er mwyn ailgyfeirio’r traffig arhoi tawelwch meddwl i rieni
  • mae sesiynau chwarae’n cael eu harwain gan gymdogion ac ond yn cael eu hysbysebu yn yr ardal gyfagos
  • mae rhieni a gofalwyr yn gyfrifol am eu plant eu hunain
  • mae’r pwyslais ar chwarae rhydd, anffurfiol
  • mae plant fel arfer yn dod â’u teganau eu hunain fel rhaffau sgipio, beics a sgwteri
  • mae oedolion yn cael cyfle i gwrdd gydag a dod i adnabod eu cymdogion yn well ac i brofi stryd ddi-geir.

Er mwyn cefnogi prosiectau strydoedd chwarae, rydym wedi gweithio gyda Playing Out, y sefydliad cenedlaethol sy’n cefnogi chwarae ar y stryd trwy’r DU gyfan. Gyda’n gilydd, rydym wedi datblygu adnoddau ar gyfer trigolion, awdurdodau lleol a phartneriaid yng Nghymru.

Plant mewn mannau cyhoeddus

Mae chwarae, ymlacio a chymdeithasu yn rhannau pwysig o fywydau arddegwyr. Maen nhw’n cyfrannu at ymdeimlad arddegwyr o hunaniaeth, yn ogystal â’u datblygiad a’u lles. Yn draddodiadol, mae plant hŷn ac arddegwyr wedi defnyddio gwahanol fannau i chwarae a chwrdd â’u ffrindiau, gan wneud defnydd da o fannau cyhoeddus, fel:

  • strydoedd
  • canol trefi
  • sgwariau
  • corneli strydoedd
  • parciau
  • mannau y tu allan i siopau.

Yn anffodus, dros y blynyddoedd, bu llai o oddefgarwch tuag at blant ac arddegwyr yn chwarae a chwrdd â’i gilydd mewn mannau cyhoeddus.

Mae plant hŷn a phlant yn eu harddegau wedi siarad gyda ni am eu hofnau am chwarae’r tu allan. Mae’r rhain yn cynnwys bwlian neu fygythiadau gan blant eraill yr un oed a’u bod yn teimlo’n fwy diogel mewn grwpiau mawrion. Fodd bynnag, yn aml iawn mae pobl eraill yn teimlo bod y grwpiau mawrion hyn yn fygythiol a gall grwpiau o blant hŷn annog plant iau i beidio ymweld â pharciau’n fwy rheolaidd.

Adnoddau

Mae plant hŷn yn chwarae hefyd

Mae’r daflen wybodaeth hon yn archwilio chwarae plant hŷn, yn enwedig rhai 11 i 16 oed. Wedi ei hanelu at weithwyr chwarae, mae’n edrych ar:

  • ymddygiadau chwarae plant hŷn a’r buddiannau y maent yn eu cynnig
  • y mannau ble mae plant hŷn yn chwarae a pham eu bod yn eu dewis
  • rhwystrau i chwarae a’r canlyniadau cymdeithasol
  • sut i ddarparu ar gyfer chwarae plant hŷn.

 

Sut i drefnu sesiynau chwarae’r tu allan ar dy stryd

Mae’r pecyn cymorth hwn yn cynnig canllaw cam-wrth-gam ar gyfer trigolion sy’n trefnu sesiynau chwarae stryd. Mae’n seiliedig ar brofiadau rhieni a thrigolion ledled y DU. Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys adnoddau cefnogol a ddyluniwyd i helpu rhieni i drefnu sesiynau chwarae ar eu stryd. (Mae’r rhain ar gael i’w lawrlwytho yn ein Llyfrgell cyhoeddiadau).

 

Agor strydoedd ar gyfer chwarae

Mae’r pecyn cymorth hwn wedi ei ddylunio i ddarparu gwybodaeth glir a chryno am chwarae stryd ar gyfer awdurdodau lleol a’u partneriaid. Bwriedir iddo helpu awdurdodau lleol i ddatblygu polisïau a gweithdrefnau i alluogi prosiectau chwarae stryd wedi’u harwain gan drigolion yn eu hardaloedd. Mae’n ddefnyddiol hefyd ar gyfer cymdeithasau tai, cymunedau ysgolion, gweithwyr cymunedol a thrigolion i’w helpu i ddeall y cyfleoedd a’r heriau.

 

Paratoi dy blentyn i chwarae’r tu allan yn ddiogel ac yn hyderus

Bydd yr awgrymiadau anhygoel hyn gan Plentyndod Chwareus yn helpu rhieni i roi’r gefnogaeth y mae eu plant ei angen i chwarae’r tu allan yn eu cymdogaethau.

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors