Amdanom ni
Eiriolwyr dros chwarae plant
Chwarae Cymru – yr elusen genedlaethol dros chwarae plant yng Nghymru.
EIRIOL DROS ANGEN A HAWL POB PLENTYN I CHWARAE
Rydym yn canolbwyntio ar dri maes allweddol:
Cynyddu ymwybyddiaeth
Rydym yn gweithioi gynyddu ymwybyddiaeth am angen a hawl plant ac arddegwyr i chwarae.
Hybu arfer da
Rydym yn hyrwyddo arfer dda ar bob lefel o lunio penderfyniadau. Rydym hefyd yn hyrwyddo arfer da ble bynnag y gall plant chwarae.
Darparu cyngor ac arweiniad ar draws pob sector
Rydym yn darparu cyngor ac arweiniad i gefnogi pawb sydd â diddordeb mewn, neu sy’n gyfrifol am, ddarparu’r hyn sydd ei angen ar gyfer chwarae plant.
EIN CENHADAETH A'N GWELEDIGAETH
Mae Chwarae Cymru yn angerddol am chwarae a'i holl fanteision.
Ein cennad:
Ymgyrchu dros Gymru chwarae-gyfeillgar trwy arwain gyda bwriad, cydweithio gyda chynwysoldeb, addysgu gyda brwdfrydedd, a chefnogi gyda sensitifrwydd.
Ein gweledigaeth:
Dyfodol ble caiff chwarae ei werthfawrogi yng Nghymru am ei fod yn hanfodol i blentyndod iach a hapus. Gwlad ble mae plant yn rhydd i archwilio, darganfod, datblygu a thyfu drwy chwarae.
MAE EIN GWAITH YN CYNNWYS:
- Polisi: Gweithio gydag unigolion, sefydliadau a rhwydweithiau i hysbysu datblygiad polisi a materion chwarae plant eraill.
- Gwasanaeth gwybodaeth: Hybu gwerth chwarae plant trwy ddarparu gwybodaeth gyfredol ac amserol i bawb sydd â diddordeb mewn, neu sy’n gyfrifol am, chwarae plant
- Cyngor a chefnogaeth: Darparu gwybodaeth arbenigol am bob mater sy’n effeithio ar chwarae plant.
- Datblygu’r gweithlu: Cyfrannu at ddatblygiad proffesiynol y gweithluoedd chwarae a gwaith chwarae.
Darllenwch ein hadroddiadau effaith blynyddol, yn hen a newydd, i ddysgu mwy am ein gwaith.