Chwarae Cymru – yr elusen genedlaethol dros chwarae plant yng Nghymru.
Cynyddu ymwybyddiaeth
Rydym yn gweithioi gynyddu ymwybyddiaeth am angen a hawl plant ac arddegwyr i chwarae.
Hybu arfer da
Rydym yn hyrwyddo arfer dda ar bob lefel o lunio penderfyniadau. Rydym hefyd yn hyrwyddo arfer da ble bynnag y gall plant chwarae.
Darparu cyngor ac arweiniad ar draws pob sector
Rydym yn darparu cyngor ac arweiniad i gefnogi pawb sydd â diddordeb mewn, neu sy’n gyfrifol am, ddarparu’r hyn sydd ei angen ar gyfer chwarae plant.
Ein cennad:
Ymgyrchu dros Gymru chwarae-gyfeillgar trwy arwain gyda bwriad, cydweithio gyda chynwysoldeb, addysgu gyda brwdfrydedd, a chefnogi gyda sensitifrwydd.
Ein gweledigaeth:
Dyfodol ble caiff chwarae ei werthfawrogi yng Nghymru am ei fod yn hanfodol i blentyndod iach a hapus. Gwlad ble mae plant yn rhydd i archwilio, darganfod, datblygu a thyfu drwy chwarae.
Darllenwch ein hadroddiadau effaith blynyddol, yn hen a newydd, i ddysgu mwy am ein gwaith.